Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Golff
Yn yr Adran Hon
- Aerobeg
- Hoci Aer
- Chwaraeon Awyr
- PlDroed Americanaidd
- Saethyddiaeth
- Athletau
- Badminton
- Pl-Fas
- Pl Fasged
- Bowls
- Bocsio
- Dringo
- Criced
- Beicio
- Dartiau
- Deifio a Snorcelu
- Ffensio
- Pysgota
- Pl-Droed
- Golff
- Gymnasteg a Thrampolinio
- Hoci
- Marchogaeth
- Hoci I
- Chwaraeon I
- Lacrs
- Crefft Ymladd
- Chwaraeon Modur
- Pl-Rwyd
- Gweithgareddau Awyr Agored
- Parkour/Rhyddredeg
- Chwaraeon Rolio
- Rhwyfo
- Rygbi
- Hwylio
- Saethu
- Sgrialu
- Sgo ac Eirafyrddio
- Snwcer A Pŵl
- Sboncen
- Syrffio
- Nofio ac Achub Bywyd
- Tenis Bwrdd
- Tenis
- Pl Foli
- Sgo Dŵr
- Yoga
Golff
- Mae golff yn gamp lle mae chwaraewyr unigol neu dimau yn taro pêl fach i mewn i dwll gydag un ergyd neu nifer o ergydau yn olynol, trwy ddefnyddio ffyn golff ar gwrs golff. Mae chwarae yn cychwyn ar y llawr tïo
- Nod golff yw taro’r bêl i mewn i’r twll gyda chyn lleied o ergydau â phosibl. Mae’r sgôr yn dibynnu ar nifer yr ergydau y mae’n cymryd i’r chwaraewr roi’r bêl yn y twll
- Mae golff wedi cael ei chwarae ym Mhrydain Fawr ers sawl canrif
- Mae’n dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith pobl ifanc
- Y llawr tïo yw’r man lle y mae’n rhaid i ti ’dïo’ dy bêl – dyma yw'r man cychwyn, ac mae wedi’i nodi gan ddau farciwr tïo
- Rwyt ti'n taro’r bêl yn y llawr tïo, ac unwaith y mae’r bêl yn peidio symud, gall ei tharo eto. Byddi di'n gwneud hyn nes y bydd y bêl yn mynd i mewn i’r twll
- Mae’r cwrs golff yn ardal fawr sydd wedi’i chynllunio’n arbennig ar gyfer chwarae golff, ac mae’n cynnwys cyfres o dyllau
- Mae 'twll' yn cyfeirio at dwll yn y ddaear a’r pellter o’r llawr tïo i’r grîn
- Y grîn yw’r ardal sydd yn amgylchynu’r twll ei hun
- Mae rhai tyllau’n anoddach nag eraill
- Mae gan y rhan fwyaf o feysydd golff naw neu ddeunaw o dyllau
- Mae’r tyllau’n cael eu chwarae yn nhrefn y cwrs
- Mae llawer o dyllau’n cynnwys peryglon fel peryglon dŵr neu byncars i wneud y gêm yn anoddach ac yn fwy amrywiol
- Mae gan chwaraewyr set o ffyn golff sydd â siafft denau a phen pren neu haearn
- Gall golffiwr gario hyd at 14 o ffyn yn ystod rownd
- Mae pedwar prif gategori o ffon golff – ffyn pren, hybrid, ffyn haearn a pyters. Ceir 'wedges' hefyd, sy’n debyg i ffyn haearn
- Os wyt ti eisiau dysgu i chwarae golff, gall gael gwersi preifat, ymuno ag ysgol golff neu ymarfer dy drawiadau ar faes ymarfer golff
- Twrnamaint golff fwyaf y byd yw'r Cwpan Ryder
Golff yng Nghymru
- Mae yna galendr golff amatur a phroffesiynol llawn a drefnwyd gan y Welsh Golfing Union a’r Welsh Ladies Golfing Union
- Mae mwy na 150 o gyrsiau golff yng Nghymru, yn cynnwys Dinbych y Pysgod, Llandudno, yr Eglwys Newydd (Caerdydd), Trefynwy, Bro Llangollen, Prestatyn, Creigiau, Borth ac Ynyslas, Sant Deiniol, Padeswood a Bwcle, Aberystwyth, Ashburnham, Aberdâr, Castell Gwenfo, Porthcawl Brenhinol, Conwy (Sir Gaernarfon) a Pyl a Chynffig
A wyddost ti…?
- Yn 2010, cafodd y Cwpan Ryder ei gynnal yn y Celtic Manor Resort yng Nghasnewydd
- Mae golff yn un o’r campau prin sydd heb faes chwarae safonol
- Y Royal and Ancient Golf Club of St Andrew’s, yr Alban yw cartref rhyngwladol y gamp, ac mae rheolau sylfaenol y gamp yn cael eu gweithredu ar hyd a lled y byd
- Mae un o golffwyr gorau PGA Ewrop ac aelod rheolaidd o Gwpan Ryder yn Gymro – ei enw yw Ian Woosnam
- Yr Welsh Golfing Union yw'r ail glwb hynaf y byd – fe’i sefydlwyd yn 1895