Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Sgo ac Eirafyrddio



Sgïo ac Eirafyrddio

  • Mae sgïo ac eirafyrddio’n dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith pobl ifanc
  • Maen nhw’n fwyaf poblogaidd yn ystod misoedd y gaeaf, rhwng mis Rhagfyr a mis Ebrill, ond gall eu gwneud trwy gydol y flwyddyn ar y llethr sgïo sych lleol
  • Mae sgïo ac eirafyrddio’n tueddu i fod yn gampau costus, felly ffordd dda o ddechrau arnyn nhw yw trwy'r ysgol neu’r llethr sgïo sych lleol
  • Mae llethrau sych yn cynnig hyfforddiant am ryw £10 i £30 yr awr, a byddan nhw’n darparu’r holl offer cywir ar dy gyfer di
  • Os wyt ti'n mynd i sgïo neu eirafyrddio ar eira go iawn, bydd rhaid i ti wisgo’r dillad cywir. Dylet ti gadw’n gynnes, gyda digon o haenau, a gwisgo trwser gwrth–ddŵr, o’r enw ’salopettes’ a siaced wrth–ddŵr cynnes hefyd. Mae'n bwysig i ti wisgo sanau sgïo cywir hefyd. Gall brynu’r rhain yn y rhan fwyaf o siopau gweithgareddau awyr agored
  • Bydd angen yr offer cywir arnat ti hefyd, fel bŵts, sgïau neu fwrdd eira. Bydd nifer o siopau yn y rhan fwyaf o ganolfannau sgïo lle y gallet logi’r offer cywir

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50