Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Chwaraeon Awyr
Yn yr Adran Hon
- Aerobeg
- Hoci Aer
- Chwaraeon Awyr
- PlDroed Americanaidd
- Saethyddiaeth
- Athletau
- Badminton
- Pl-Fas
- Pl Fasged
- Bowls
- Bocsio
- Dringo
- Criced
- Beicio
- Dartiau
- Deifio a Snorcelu
- Ffensio
- Pysgota
- Pl-Droed
- Golff
- Gymnasteg a Thrampolinio
- Hoci
- Marchogaeth
- Hoci I
- Chwaraeon I
- Lacrs
- Crefft Ymladd
- Chwaraeon Modur
- Pl-Rwyd
- Gweithgareddau Awyr Agored
- Parkour/Rhyddredeg
- Chwaraeon Rolio
- Rhwyfo
- Rygbi
- Hwylio
- Saethu
- Sgrialu
- Sgo ac Eirafyrddio
- Snwcer A Pŵl
- Sboncen
- Syrffio
- Nofio ac Achub Bywyd
- Tenis Bwrdd
- Tenis
- Pl Foli
- Sgo Dŵr
- Yoga
Chwaraeon Awyr
Mae nifer o fathau gwahanol o chwaraeon awyr y gallet ti gymryd rhan ynddynt ledled Cymru gan gynnwys:
- Hedfan
- Gleidio
- Barcuta (hang gliding)
- Paragleidio
- Parasiwtio
- Hedfan barcud
Mae sawl risg yn gysylltiedig â hedfan. Gall fod yn beryglus felly mae’n bwysig dy fod yn ymuno â chlwb gyda hyfforddwyr hollol gymwys.
Gall hyfforddiant pob un o’r chwaraeon awyr gwahanol hyn fod ychydig yn wahanol ond yn ôl y gyfraith rhaid i ti fod o leiaf 16 oed i hedfan ar ben dy hun. Ac os wyt ti o dan 18 mlwydd oed, rhaid i ti gael caniatâd rhiant neu warcheidwad.
Os oes gen ti wasgedd gwaed uchel, cymalau gwan neu anaf i’r cefn, anogir i ti weld dy feddyg cyn rhoi cynnig ar unrhyw chwaraeon awyr.
Hedfan
Os wyt ti wedi penderfynu dy fod am ddysgu hedfan, bydd rhaid cwblhau cwrs PPL (Trwydded Beilot Breifat). Rhaid i ti fod yn 17 ac wedi pasio archwiliad meddygol er mwyn cael y drwydded yma.
Mae rhai clybiau’n cynnig hediad prawf, lle byddi di'n cael cynnig ar hedfan awyren gyda hyfforddwr. Gall hyn fod yn ffordd wych o ddarganfod a wyt ti'n mwynhau hedfan ac os wyt ti eisiau dysgu.
Gleidio
Nid oes injan gan gleider ac maen nhw’n defnyddio technegau tebyg i adar yn gleidio drwy’r awyr.
Os oes gen ti ddiddordeb mewn dysgu gleidio, awgrymir i ti fod o leiaf 14 oed cyn cychwyn. Mae hyn yn sicrhau dy fod yn ddigon mawr i gael dy ddal i mewn yn ddiogel a chyrraedd y pedalau.
Barcuta (Hang gliding)
Mae barcuta yn golygu cael dy strapio i gleider – ffrâm ysgafn gydag adain siâp triongl i adael i ti hedfan. Er mwyn esgyn, mae’r barcutwr yn rhedeg lawr bryn ac yn lansio i’r awyr.
Os oes gen ti ddiddordeb mewn dysgu barcuta, mae cyrsiau ar gael ledled Cymru.
Paragleidio
Mae paragleidio yn debyg i farcuta, ond heb y ffrâm ysgafn – ceir canopi defnydd yn unig, yn debyg i barasiwt. Mae paragleidwyr yn esgyn trwy neidio o fannau uchel ac yn disgyn yn araf deg trwy’r awyr.
Parasiwtio / Awyrblymio
Mae parasiwtwyr ac awyrblymwyr yn neidio o awyren gyda pharasiwt sydd heb ei agor wedi strapio i’w cefn. Caiff y parasiwt ei agor cyn i ti fynd yn agos at y ddaear er mwyn sicrhau dy fod yn glanio mewn ffordd reoledig a diogel.
Mae sawl naid wahanol fedri di gael profiad ohonynt. Caiff parasiwtwyr ac awyrblymwyr heb brofiad eu strapio i hyfforddwr, a fydd yn rheoli’r neidio ac yn agor y parasiwt. Rhaid cael llawer mwy o hyfforddiant i neidio’n unigol.