Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Gweithgareddau Awyr Agored
Yn yr Adran Hon
- Aerobeg
- Hoci Aer
- Chwaraeon Awyr
- PlDroed Americanaidd
- Saethyddiaeth
- Athletau
- Badminton
- Pl-Fas
- Pl Fasged
- Bowls
- Bocsio
- Dringo
- Criced
- Beicio
- Dartiau
- Deifio a Snorcelu
- Ffensio
- Pysgota
- Pl-Droed
- Golff
- Gymnasteg a Thrampolinio
- Hoci
- Marchogaeth
- Hoci I
- Chwaraeon I
- Lacrs
- Crefft Ymladd
- Chwaraeon Modur
- Pl-Rwyd
- Gweithgareddau Awyr Agored
- Parkour/Rhyddredeg
- Chwaraeon Rolio
- Rhwyfo
- Rygbi
- Hwylio
- Saethu
- Sgrialu
- Sgo ac Eirafyrddio
- Snwcer A Pŵl
- Sboncen
- Syrffio
- Nofio ac Achub Bywyd
- Tenis Bwrdd
- Tenis
- Pl Foli
- Sgo Dŵr
- Yoga
Gweithgareddau Awyr Agored
Mae gweithgareddau awyr agored yn cynnwys heicio, dringo, cerdded mynyddoedd, cyfeiriannu a chwaraeon dŵr awyr agored fel rafftio, canŵio a caiacio. Mae dringo a cherdded mynyddoedd yn chwaraeon antur sy’n hyrwyddo hunanddibyniaeth, sgiliau arwain a gwerthfawrogiad amgylcheddol.
Heicio a cherdded
- Mae heicio yn fath o gerdded y mae pobl yn ei wneud fel ymarfer corff neu am bleser oherwydd eu bod yn mwynhau darganfod y wlad a mwynhau’r golygfeydd. Mae’n digwydd yng nghefn gwlad yn bennaf
- Mae Cymru’n berffaith ar gyfer heicio a cherdded oherwydd ei mynyddoedd a’i bryniau
- Mae llawer o amrywiaeth o ran cerdded yng Nghymru, o Daith y Tri Chastell i Daith Eryri
- Gall gysylltu â ’Walking Wales’ i drefnu trip cerdded, gwyliau cerdded neu am help wrth ddewis taith dy hun
Dringo
- Gall dringo fod yn gamp hynod beryglus os nad wyt ti'n cael dy oruchwylio, ac os nad yw’r offer a dillad amddiffynnol cywir gennyt
- Dringo creigiau – sef dringo ar dir serth, creigiog – a mynydda, sef dringo ar fynyddoedd, yw’r ddau brif fath o ddringo
- Dringo dan do yw dringo ar waliau dringo artiffisial
- Os wyt ti'n 'dringo â chymhorthion', byddi di'n defnyddio pob modd posibl o ddringo i fyny, fel taclau tynnu neu ddringo ysgolion rhaff sydd i gyd wedi’u clymu wrth wal gyda bolts
- Os wyt ti'n 'dringo’n rhydd' byddi di'n defnyddio dwylo, traed a rhannau eraill o’r corff i ddringo wyneb. Defnyddir rhaffau a thaclau eraill i amddiffyn yn unig
- Fel arfer bydd cystadlaethau’n cael eu cynnal dan do ar waliau dringo pwrpasol. Mae tri phrif gategori – anhawster, cyflymder a dringo dros glogfeini, ac mae gan bob un nod dringo gwahanol
Cyfeiriannu
- Mae cyfeiriannu’n gamp lle mae cystadleuwyr yn llywio eu ffordd rhwng pwyntiau rheoli a nodir ar fap pwrpasol trwy ddefnyddio map a chwmpawd. Fel arfer mae’n golygu mynd dros dir amrywiol ei natur a llawer o antur
- Mae gan gwrs cyfeiriannu safonol fan cychwyn, cyfres o fannau rheoli sydd wedi’u nodi gan gylchoedd ac wedi’u cysylltu gan linellau, ac wedi’u rhifo yn y drefn gywir i’w darganfod, a man gorffen
- Gall ymarfer cyfeiriannu fel hobi, ac mae’n ffordd hawdd o gadw'n heini
- Mae’n weithgaredd cyffrous i’w rannu gyda ffrindiau neu deulu
- Mae cyfeiriannu’n gamp dra gystadleuol hefyd sy’n cynnwys canolbwyntio’n ddwys, sgil a ffitrwydd
- Mae sawl gwahanol fath o gyfeiriannu. Cyfeiriannu traed yw’r math mwyaf cyffredin. Dyma le mae cystadleuwyr yn rhedeg naill ai draws gwlad neu’n cerdded, ac yn defnyddio’u map a chwmpawd i ddarganfod y ffordd o’r dechrau i’r diwedd, gan stopio ym mhob un o’r mannau rheoli
- Ceir hefyd gyfeiriannu sgïo, cyfeiriannu beic mynydd a chyfeiriannu llwybr
- Mae cyfeiriannu’n weithgaredd awyr agored sy’n addas i ysgolion. Ceir lefelau heriol i bob oedran a gallu, a gellir ei ddefnyddio fel rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gorfforol, Daearyddiaeth a Mathemateg
- Gall ei wneud yn y maes chwarae neu yng nghefn gwlad
- Mae rheolau cyfeiriannu wedi’u diffinio gan yr International Orienteering Federation. Mae gan y British Orienteering Federation dîm o swyddogion datblygu a all gynnig cyngor
Rafftio
- Gall rafftio dŵr gwyn fod yn hynod o beryglus – mae risg o ddamwain neu anaf difrifol oherwydd natur annisgwyl y dŵr cyflym
- Mae deddfwriaeth a mesuriadau diogelwch yn eu lle erbyn hyn ar gyfer gweithredwyr rafftio, yn cynnwys rheoliadau llym ynglŷn â pha offer diogelwch i’w gario ar rafftiau, a rhaid i owtffitwyr, rafftiau ac arweinwyr rafftio gael tystysgrif – dylet ti drafod mesuriadau diogelwch y gweithredwr rafftiau cyn archebu rafft
- Ceir gyflwyniad diogelwch gan y ganolfan rafftio. Dylet ti ofyn am gymwysterau’r arweinydd, y math a sgôp yr offer cyn dechrau rafftio
- Mae rafftio’n weithgaredd hamdden awyr agored sy’n defnyddio rafft (cwch chwythu i fyny erbyn hyn) i fynd ar afon neu ddyfrffordd arall
- Fel arfer mae rafftio yn cael ei wneud ar ddŵr gwyn (rafftio dŵr gwyn) er mwyn gwneud y gweithgaredd yn gyffrous i’r bobl ar y rafft
- Defnyddir padlau cyffredin i lywio’r rafft, ac maen nhw fel arfer yn cario pedwar i ddeuddeg o bobl
- Gall gymryd rhan mewn rafftio dŵr gwyn trwy gydol y flwyddyn
Canŵio a chaiacio
- Mae canŵod a chaiacs yn gychod bach, a defnyddir padl i wthio’r cwch ar hyd wyneb y dŵr
- Mae’r canŵ yn cael ei wthio yn ei flaen gyda phadl llafn sengl, ac mae’r padlwr yn penlinio neu’n eistedd ar sedd wedi’i chodi
- Mae caiac yn cael ei wthio yn ei flaen gyda phadl â dau lafn ac mae’r padlwr yn eistedd gyda’u coesau o’u blaenau nhw
- Mae nifer y padlwyr yn dibynnu ar faint y canŵ
- Mae padlwyr yn wynebu’r cyfeiriad y maen nhw’n teithio iddo. Mae padlo canŵ yn wahanol i rwyfo, lle mae rhwyfwyr yn wynebu’r cyfeiriad arall
- Yn gyffredinol, mae caiacs yn gychod dec caeedig gyda 'spray deck' (gorchudd o ryw fath) ac mae canŵod yn gychod agored
- Yr International Canoe Federation yw’r sefydliad canŵo rhyngwladol sy’n creu’r rheolau safonol ar gyfer canŵio fel camp
Mathau o ganŵio
- Mae sawl math o ddisgyblaethau canŵio os wyt ti eisiau cystadlu neu beidio – sbrint a slalom yw’r unig ddau sy’n cael eu cynnal yn y Gemau Olympaidd
- Sbrint , neu rasio, yn golygu rasys canŵ neu gaiac dros 200m, 500m a 1000m
- Mewn slalom mae cystadleuwyr yn cael eu hamseru wrth fynd i lawr cwrs dŵr gwyn lle mae’n rhaid iddyn nhw lywio eu canŵod trwy giatiau, sef pâr o bolion tua 1m ar wahân
- Mae marathon yn ras hirach dros gwrs dŵr fflat. Mae’r pellter yn amrywio o ddwy filltir i 125 o filltiroedd
- Mae cystadleuwyr yn llywio eu canŵod neu gaiacs i lawr afonydd cyflym mewn cystadlaethau dŵr gwyn
- Mae fersiynau eraill yn cynnwys polo canŵ a hwylio canŵ
- Yn y digwyddiadau hyn, mae caiacio a chanŵio yn cael eu gwahanu’n ddosbarthiadau ar wahân
- Mae gweithgareddau awyr agored eraill yn cynnwys cerdded mynyddoedd, ogofa dan ddaear a mynydda. Gweler Chwaraeon Dŵr ar gyfer pysgota, rhwyfo, syrffio, nofio, achub bywyd a sgïo dŵr
A wyddost di…?
Mae canolfan dŵr gwyn flaenllaw’r DU yn Bala yng Ngogledd Cymru. Caiff ei alw’n Ganolfan Tryweryn – Canolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol