Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Saethu
Yn yr Adran Hon
- Aerobeg
- Hoci Aer
- Chwaraeon Awyr
- PlDroed Americanaidd
- Saethyddiaeth
- Athletau
- Badminton
- Pl-Fas
- Pl Fasged
- Bowls
- Bocsio
- Dringo
- Criced
- Beicio
- Dartiau
- Deifio a Snorcelu
- Ffensio
- Pysgota
- Pl-Droed
- Golff
- Gymnasteg a Thrampolinio
- Hoci
- Marchogaeth
- Hoci I
- Chwaraeon I
- Lacrs
- Crefft Ymladd
- Chwaraeon Modur
- Pl-Rwyd
- Gweithgareddau Awyr Agored
- Parkour/Rhyddredeg
- Chwaraeon Rolio
- Rhwyfo
- Rygbi
- Hwylio
- Saethu
- Sgrialu
- Sgo ac Eirafyrddio
- Snwcer A Pŵl
- Sboncen
- Syrffio
- Nofio ac Achub Bywyd
- Tenis Bwrdd
- Tenis
- Pl Foli
- Sgo Dŵr
- Yoga
Saethu
Chwaraeon Saethu
- Mae chwaraeon saethu’n gampau cystadleuol sy’n profi manwl–gywirdeb a chyflymder
- Gall ymarfer campau saethu trwy ddefnyddio gwahanol fathau o ddrylliau
- Mae cofnod diogelwch saethu’n benigamp – mae ganddo’r ffigwr isaf o anafiadau damweiniol o bob math o chwaraeon. Mae hyn oherwydd y rheoliadau llym yn ymwneud â defnyddio drylliau yn y gamp, a’r safon uchel o hyfforddiant ac addysg sydd ei hangen. Rhaid glynu wrth gyfreithiau saethu’n dynn, nid yn unig o dan reolau’r gamp, ond hefyd o dan gyfraith Prydain Fawr
- Gall saethwyr ifanc ddysgu i ddefnyddio drylliau’n ddiogel ac yn gyfrifol dan gynllun sy’n sicrhau eu diogelwch eu hunain a diogelwch y cyhoedd
- Fodd bynnag, ni ddylai neb saethu heb sicrwydd yswiriant llawn – mae sicrwydd yswiriant dibynadwy ar gael trwy’r British Association for Shooting and Conservation sy’n darparu sicrwydd llawn ar gyfer damweiniau
- Mae llawer o wahanol fathau o saethu yn y DU, yn cynnwys saethu colomennod clai a saethu targedau
Saethu pistol
- Ym mhob digwyddiad pistol, mae cystadleuwyr yn ennill pwyntiau trwy saethu targed â 10 cylch arno
- Yr enillydd yw’r person sy’n sgorio’r nifer mwyaf o bwyntiau
- Mae saethwyr pistol yn sefyll ar eu traed a rhaid iddyn nhw ddal a saethu’r gwn gydag un llaw
- Ceir pwyntiau rhwng un ar gyfer y cylch allanol a 10 ar gyfer y canol (y ’bull’)
- Mae yna ddigwyddiadau saethu gwahanol – rhai yn 10m, rhai yn 25m a rhai yn 50m, ac mae’r rheolau a’r dulliau saethu yn amrywio ar gyfer pob digwyddiad
- Mae hefyd targedau trachywiredd ar gyfer 50m a 25m, a thargedau saethu cyflym
- Er mwyn cymryd rhan mewn saethu, gallet ymuno â chlwb saethu neu faes ymarfer saethu – ceir cannoedd ohonyn nhw yn y DU
- Mae’r rhan fwyaf o glybiau’n croesawu unrhyw un sydd eisiau dysgu
- Cer draw i wefan y British Shooting Sports Council sy’n cwmpasu pob disgyblaeth saethu
Saethu colomennod clai
- Mae saethu colomennod clai yn weithgaredd hamdden a chystadleuol lle mae saethwyr yn ceisio torri disgiau clai sydd wedi cael eu taflu i’r awyr yn gyflym iawn
- Mae cystadleuwyr yn saethu o amrywiaeth o onglau gwahanol
- Mae gan saethu colomennod clai draddodiad cryf yng Nghymru ac mae gan Gymru dîm saethu colomennod clai llwyddiannus
- Os oes gen ti ddiddordeb mewn saethu gallet ymuno â chlwb saethu lleol
A wyddost di…?
- Mae saethu’n dod â gwaith ac arian i gefn gwlad, ac yn cyfrannu’n sylweddol at economi’r DU – mae 26,300 o swyddi amser llawn yn y DU yn dibynnu’n uniongyrchol ar saethu
- Mae gan y British Association for Shooting and Conservation fwy na 123,000 o aelodau
- Mae mwy na miliwn o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon saethu bob blwyddyn, sy’n fwy na rygbi, hoci ac athletau