Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Pl-Rwyd
Yn yr Adran Hon
- Aerobeg
- Hoci Aer
- Chwaraeon Awyr
- PlDroed Americanaidd
- Saethyddiaeth
- Athletau
- Badminton
- Pl-Fas
- Pl Fasged
- Bowls
- Bocsio
- Dringo
- Criced
- Beicio
- Dartiau
- Deifio a Snorcelu
- Ffensio
- Pysgota
- Pl-Droed
- Golff
- Gymnasteg a Thrampolinio
- Hoci
- Marchogaeth
- Hoci I
- Chwaraeon I
- Lacrs
- Crefft Ymladd
- Chwaraeon Modur
- Pl-Rwyd
- Gweithgareddau Awyr Agored
- Parkour/Rhyddredeg
- Chwaraeon Rolio
- Rhwyfo
- Rygbi
- Hwylio
- Saethu
- Sgrialu
- Sgo ac Eirafyrddio
- Snwcer A Pŵl
- Sboncen
- Syrffio
- Nofio ac Achub Bywyd
- Tenis Bwrdd
- Tenis
- Pl Foli
- Sgo Dŵr
- Yoga
Pêl-Rwyd
- Mae pêl–rwyd yn cael ei chwarae ar gwrt caled gyda hŵps ar y ddau ben a phêl i’w thaflu, sy’n eithaf mawr, ond ychydig yn llai na phêl–fasged neu bêl–droed
- Mae’n cael ei chwarae gan ddau dîm o saith chwaraewr
- Mae pêl–rwyd yn cael ei chwarae’n bennaf gan fenywod, er bod timau dynion a chymysg yn dod yn fwyfwy poblogaidd
- Nod y gamp yw sgorio trwy saethu’r bêl i mewn i un o’r hŵps
- Y tîm sy’n sgorio’r nifer mwyaf o goliau ar ddiwedd y gêm sy’n ennill
- Mae cwrt pêl–rwyd wedi’i rhannu’n ddau draean
- Mae hanner cylch ar bob pen o’r cwrt, ac o’r hanner cylch hwnnw mae’n rhaid sgorio saethiadau
- Mae’r traeanau’n dangos lle y gall chwaraewyr ym mhob tîm symud
- Mae’r rheolau’n llym ac mae chwaraewyr yn cael eu cosbi os ydyn nhw’n symud y tu allan i’w man penodedig
- Dyw rheolau pêl–rwyd ddim yn caniatáu i chwaraewyr gymryd mwy nag un cam tra bod y bêl yn eu meddiant. Os yw rhywun yn taflu’r bêl atat ti, rhaid i ti beidio â symud, er y gallet droi (gan gadw un troed yn yr unfan) er mwyn dewis rhywun i daflu’r bêl ato
- Ni yw'r bêl yn cael ei ddal gan un chwaraewr am fwy na thri eiliad
- Ni all fownsio’r bêl
- Yr unig ffordd i symud y bêl tuag at y gôl yw ei thaflu i aelod arall o’r tîm
- Gall y chwaraewyr eraill redeg o gwmpas i safleoedd gwell tra bod y bêl gen ti yn dy ddwylo
- Mae pêl–rwyd yn gamp ddi–gyffyrddiad
- Mae hyn ei gwneud yn anodd amddiffyn – rhaid i chwaraewyr fod o leiaf dair troedfedd i ffwrdd i amddiffyn
- Os yw rhywun yn cyffwrdd â chwaraewr, rhoddir y bêl i’r tîm arall
- Gall dynion a menywod gystadlu yn erbyn ei gilydd yn deg oherwydd nad yw rheolau’r gêm yn caniatáu i gryfder dynion fod yn fantais, er y gall taldra dynion fod yn fantais gyda safle saethu goliau
- Gallet gymryd rhan mewn pêl–rwyd yn yr ysgol neu glwb lleol – cysyllta â’r ganolfan chwaraeon lleol am fwy o wybodaeth
A wyddost ti…?
- Pêl–rwyd yw’r gamp fwyaf poblogaidd i fenywod yng Nghymru, o ran niferoedd y bobl sy’n chwarae
- Timau pêl–rwyd gorau’r byd yw Awstralia a Seland Newydd