Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Rygbi
Yn yr Adran Hon
- Aerobeg
- Hoci Aer
- Chwaraeon Awyr
- PlDroed Americanaidd
- Saethyddiaeth
- Athletau
- Badminton
- Pl-Fas
- Pl Fasged
- Bowls
- Bocsio
- Dringo
- Criced
- Beicio
- Dartiau
- Deifio a Snorcelu
- Ffensio
- Pysgota
- Pl-Droed
- Golff
- Gymnasteg a Thrampolinio
- Hoci
- Marchogaeth
- Hoci I
- Chwaraeon I
- Lacrs
- Crefft Ymladd
- Chwaraeon Modur
- Pl-Rwyd
- Gweithgareddau Awyr Agored
- Parkour/Rhyddredeg
- Chwaraeon Rolio
- Rhwyfo
- Rygbi
- Hwylio
- Saethu
- Sgrialu
- Sgo ac Eirafyrddio
- Snwcer A Pŵl
- Sboncen
- Syrffio
- Nofio ac Achub Bywyd
- Tenis Bwrdd
- Tenis
- Pl Foli
- Sgo Dŵr
- Yoga
Rygbi
Mae rygbi’n gamp lle y mae llawer o gyffyrddiad corff ac ychydig neu ddim padin. Mae cyrff llywodraethu yn gorfodi rheolau’r gêm yn llym iawn ym myd rygbi proffesiynol. Dylai bob amser ddilyn rheolau rygbi er diogelwch dy hun. Gall torri’r rheolau arwain at anafiadau difrifol.
Yn y bôn, mae rygbi yn fath o bêl–droed sy’n cael ei chwarae gyda phêl hirgron. Mae dau fersiwn o’r gêm – rygbi’r gynghrair a rygbi undeb. Mae’r wybodaeth hon yn disgrifio Rygbi Undeb – sef camp genedlaethol Cymru.
- Mae dau dîm o 15 o chwaraewyr sy’n pasio, cicio, cario ac yn llorio’r bêl er mwyn sgorio cymaint o bwyntiau â phosibl
- Gall chwaraewyr basio’r bêl y tu ôl iddyn nhw yn unig, ac nid o’u blaenau nhw
- Y tîm sy’n sgorio’r nifer uchaf o bwyntiau ar y diwedd sy’n ennill y gêm
- Mae gêm o rygbi wedi’i rhannu’n ddwy hanner o 40 munud yr un
- Mae un canolwr a dau farnwr llinell
Y Maes
- Mae gan faes rygbi gôl ar y naill ochr a’r llall, yn ogystal â llinell pêl farw, llinell gais, a llinell 22m a 10m ar y ddwy ochr i’r llinell hanner ffordd
- Y llinell gais yw’r llinell bellaf i ffwrdd o’r llinell hanner ffordd (ar wahân i’r llinell pêl farw)
- Dyma’r llinell y mae’n rhaid i’r chwaraewr ei phasio er mwyn sgorio cais
Sgorio
Gall chwaraewr sgorio naill ai trwy gais, trosiad, cic gosb neu gôl adlam (drop goal)
- Cais: dyma le mae’r chwaraewr yn rhoi’r bêl ar y llawr rhwng y llinell gais a’r llinell pêl farw yn hanner y tîm arall. Ceir 5 pwynt am sgorio cais
- Trosiad: dyma gyfle i sgorio dau bwynt arall ar ôl sgorio cais trwy gicio’r bêl trwy’r pyst. Rhaid cymryd y gic mewn llinell o’r lle y cafodd y cais ei sgorio
- Cic Gosb: os yw tîm yn cyflawni trosedd difrifol, mae’r tîm arall yn cael cicio gôl o le y cafodd y drosedd ei chyflawni. Mae cic gosb yn werth 3 phwynt
- Gôl Adlam: mae hyn yn cael ei sgorio lle mae chwaraewr yn cicio’r bêl o’i ddwylo trwy gôl y tîm arall. Rhaid i’r bêl gyffwrdd â’r llawr ar ôl cael ei gollwng a chyn cael ei chicio
Cicio’r bêl
- Mae cicio’n ffurfio rhan fawr o rygbi. Trwy gicio, byddi di'n dechrau ac yn ailddechrau gêm, sgorio pwyntiau, ennill tir, lansio ymosodiad a chael y tîm allan o drwbl (trwy gic glirio)
- Dim ond y chwaraewr sy’n dal y bêl all gael eu taclo – rhaid i’r chwaraewr ollwng y bêl ar ôl iddo/iddi lanio ar y ddaear
- Mae’n anghyfreithlon taclo chwaraewr uwchben yr ysgwyddau neu bwnio, taro, cerdded ar, neu gicio chwaraewr arall
Nodweddion cyffredin mewn rygbi
Mae nodweddion cyffredin yn cynnwys y sgrym a’r leiniau (lineouts), y llinell ystlys (touchline) a’r ystlys (touch)
- Sgrym – dyma le mae wyth blaenwr o bob tîm yn clymu wrth ei gilydd ac yn gwthio yn erbyn ei gilydd. Mae’r bêl yn cael ei bwydo i mewn i’r sgrym gan y tîm sydd â’r bêl. Mae’r bachwyr (un o bob tîm) yn sefyll ar gefn y sgrym ac yn ceisio ennill y bêl trwy ei bachu yn ôl gyda’u coesau. Dyw’r bachwyr ddim yn gallu cystadlu am y bêl nes ei bod yn cael ei rhoi yn y sgrym
- Leiniau – mae hyn yn digwydd pan fydd pêl yn cael ei bwrw oddi ar ochrau’r maes. Mae’r blaenwyr yn sefyll mewn dwy linell yn gyfochrog â’r llinell gôl ac mae’r bachwr yn taflu’r bêl i mewn i’r lein. Rhaid i’r bêl gael ei thaflu’n syth a theithio mwy na phum llath o’r llinell ystlys
Rygbi Undeb
- Rygbi undeb yw camp genedlaethol Cymru a Seland Newydd
- Mae rygbi undeb wedi’i ddominyddu gan wyth prif undeb:–
- Cymru, Ffrainc, Awstralia, Lloegr, yr Alban, Seland Newydd, De Affrica ac Iwerddon
- Mae rygbi undeb yn gamp fawr sy’n cael ei chwarae ym mhob un o’r gwledydd hyn
- Undeb Rygbi Cymru yw corff llywodraeth rygbi undeb yng Nghymru a chaiff ei gydnabod gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol
Rygbi’r Gynghrair
- Mae rygbi’r gynghrair yn debyg i rygbi undeb ond mae timau wedi’u ffurfio o 13 o chwaraewyr, nid 15, a chaniateir i ddau o chwaraewyr newid lle
- Mae sgrymiau a thaclau yn wahanol mewn rygbi’r gynghrair – mae’r chwaraewyr yn stopio chwarae ar ôl bob tacl
- Nid yw rygbi’r gynghrair yn defnyddio leiniau i ailddechrau’r gêm ar ôl i’r bêl fynd allan
- Mae nifer y pwyntiau a geir ar gyfer goliau a cheisiadau yn wahanol mewn rygbi’r gynghrair
- Mewn llawer o ysgolion yng Nghymru, mae rygbi undeb yn rhan orfodol o addysg bellach, ac mae gan y rhan fwyaf o ysgolion, pentrefi, trefi a dinasoedd dîm rygbi y gallet ymuno ag ef
- Mae rygbi’r gynghrair yn cael ei chwarae fel camp broffesiynol ac amatur yn Iwerddon, Ffrainc, Prydain Fawr, Awstralia a Seland Newydd – a dyma gamp genedlaethol Papua New Guinea
- Mae cystadlaethau rygbi’r gynghrair lled–broffesiynol ac amatur yn cymryd rhan yng Nghymru, Ffrainc, Rwsia, yr Alban, Iwerddon, De Affrica, Siapan, yr Unol Daleithiau a Serbia
Rygbi Menywod
- Mae tîm menywod rygbi undeb cenedlaethol o’r enw Wales Women
- Mae hefyd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i Fenywod, ond Sbaen sy’n chwarae, yn hytrach na’r Eidal
- Er nad yw menywod yn chwarae rygbi mewn ysgolion yn draddodiadol, mae rygbi menywod proffesiynol yn gamp hen sefydledig, yn enwedig yng Nghymru
- Mae timau merched Cymru ar gyfer rhai dan 19 oed a dan 16 oed
- Mae’r Super League yn dwrnamaint yn Lloegr ar gyfer y chwaraewyr rygbi gorau sy’n fenywod
- Os wyt ti eisiau cymryd rhan mewn rygbi menywod, cysyllta â’r canolfan chwaraeon lleol neu Undeb Rygbi Cymru i gael gwybod am y clybiau yn dy ardal di
Digwyddiadau ym myd rygbi
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad (RBS 6 gwlad)?
Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gystadleuaeth rygbi undeb ryngwladol flynyddol sy’n cael ei chynnal rhwng chwe thîm Ewropeaidd.
Y Chwe Gwlad yw:
- Cymru
- Yr Alban
- Lloegr
- Iwerddon
- Ffrainc
- Yr Eidal
Cwpan Rygbi’r Byd
Mae Cwpan Rygbi’r Byd yn bencampwriaeth rygbi undeb hefyd.
A wyddost di…?
- Cafodd corff llywodraeth gyntaf rygbi Cymru ei alw’n Undeb Pêl–droed De Cymru. Cafodd ei ailsefydlu yn 1880 fel Undeb Pêl–droed Cymru i drefnu gêm ryngwladol yn erbyn Lloegr. Yn 1934, daeth yn Undeb Rygbi Cymru
- Enillodd Cymru Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005 ac mae wedi’i hennill mwy na 23 o weithiau, sy’n fwy nag unrhyw dîm arall heblaw Lloegr
- Mae’r reffarî Cymraeg Derek Bevan wedi bod yn reffarî ar fwy o gemau rhyngwladol nag unrhyw ganolwr rygbi arall – 29 at ei gilydd. Fe oedd canolwr y gêm agoriadol Cwpan y Byd 1995, a honno oedd ei 29ain gêm ryngwladol
- Mae rygbi’n cael ei chwarae mewn mwy na 100 o wledydd gwahanol gan filiynau o bobl