Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Chwaraeon Rolio



Chwaraeon Rolio

Gall chwaraeon rolio gynnwys sglefrio artistig, sglefrio cyflymder, hoci rolio a hoci 'inline', 'roller derby', sglefrio rholio hamddenol gan gynnwys sglefrio disgo rolio, sgrialu a phêl-droed rolio.

Sgrialu (skateboarding)

  • Mae sgrialu ar y ffordd yn gallu bod yn hynod o beryglus ac, yn aml iawn, mae’n anghyfreithlon
  • Sicrha dy fod yn gwisgo rhywbeth i amddiffyn ti pan fyddi di'n sgrialu – yn enwedig ar dy ben – ac nid yn unig pan fyddi di'n ddechreuwr – po fwyaf hyder y sgrialwr, gwaethaf fydd y cwymp!
  • Mae sgrialu'n weithgaredd hwyl sy’n hobi ac yn gamp gystadleuol
  • Mae sgrialu'n golygu rholio neu wneud campau gyda bwrdd sgrialu
  • Mae rhywun sy’n sgrialu yn cael ei alw’n ’sglefriwr’
  • Mae sgrialu'n gamp eithafol, ac yn ddull o gelfyddyd hefyd oherwydd ei agweddau creadigol – mae sglefrwyr yn dysgu i wneud 'triciau' ar eu byrddau sgrialu
  • Mae’r rhan fwyaf o sglefrwyr yn y byd dan 18 oed – camp i bobl ifanc yw hi yn gyffredinol
  • Mae sgrialu wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yng Nghymru, yn enwedig yn Ne Cymru
  • Mae bwrdd sgrialu, trycs, olwynion a berynnau da yn costio tua £120. Fel arfer, bydd rhaid i ti gael dec newydd bob chwe wythnos – gan ddibynnu ar ba mor aml fyddi di'n sgrialu – a rhaid ailosod yr olwynion a’r berynnau bob dau neu dri mis, a’r trycs bob blwyddyn
  • Mae esgidiau sgrialu'n costio rhwng £40 a £90 – gall frifo’r traed os wyt ti'n gwisgo’r esgidiau anghywir. Bydd rhaid i ti brynu esgidiau sgrialu newydd yn aml os wyt ti'n sgrialu'n rheolaidd
  • Oherwydd bod sgrialu'n eithaf drud, mae’n ddoeth prynu bwrdd ac esgidiau rhad o siop sgrialu leol os wyt ti'n rhoi cynnig ar y gamp am y tro cyntaf, rhag ofn nad wyt ti'n ei fwynhau

Sglefrio rolio

  • Mae sglefrio rolio (neu lafnau rolio) yn golygu symud ar wynebau llyfn ar esgidiau rolio – fe’i gwneir am bleser neu fel camp
  • Gall fod yn fodd teithio hefyd
  • Mae dau fath o esgidiau sglefrio: esgidiau quad ac esgidiau inline
  • Mae gan esgidiau quad bedair olwyn – gall ddefnyddio’r rhain, er enghraifft, ar gyfer sglefrio rolio hamddenol fel yn y parc a disgo rolio, neu ar gyfer Sglefrio rholio cystadleuol fel sglefrio artistig, hoci quad, 'roller derby' neu sglefrio cyflymder
  • Mae gan esgidiau inline dair, pedair neu pum olwyn wedi’u trefnu mewn rhes sengl a gall eu defnyddio ar gyfer sglefrio hamddenol neu gystadleuol fel sglefrio artistig a sglefrio ffigwr. hoci inline, gyda chnap (puck) a phêl a sglefrio cyflymder

Sglefrio cyflymder

  • Mae sglefrio cyflymder inline yn fath cyflym, poblogaidd a chystadleuol o sglefrio rholio
  • Gall ei wneud ar rinc dan do neu ar ffyrdd
  • Mae gwahanol ddigwyddiadau ym myd sglefrio cyflym cystadleuol, yn cynnwys sglefrio pellter (y marathon er enghraifft), sbrintio a threialon amser unigol a thîm

Sglefrio rholio artistig

  • Mae sglefrio rolio artistig yn gyfres o ddigwyddiadau sglefrio rolio lle mae pobl yn gwneud ffigyrau, dawnsio neu’n sglefrio mewn dull rhydd fel rhan o berfformiad o flaen barnwyr, naill ai mewn timau neu fel unigolion
  • Mae sglefrwyr yn defnyddio naill ai esgidiau quad neu inline, ond mae’r ddau fath hyn o sglefrwyr yn cystadlu mewn digwyddiadau ar wahân fel arfer

Roller derby

  • Mae roller derby yn gamp merched cyffyrddiad-llawn sy'n cael ei chwarae ar esgidiau sglefrio pedair olwyn, gyda chwaraewyr yn sglefrio o gwmpas trac siâp hirgrwn. Mae'r gêm yn gyfres o 'countdown jams' dau funud
  • Mae roller derby yn cael ei weinyddu yn y DU gan yr UK Roller Derby Association: http://ukrda.org.uk
  • Mae'r Tiger Bay Brawlers (TBB) yn gynghrair roller derby wedi'u sefydlu yng Nghaerdydd, Cymru. Maent wedi sefydlu cynghrair roller derby iau (The Tiger Cubs) sydd yn hyfforddi am awr yr wythnos ar ddydd Mercher yng Nghaerdydd

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50