Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Beth yw Wrecsam Ifanc?

Gwefan ryngweithiol yw Wrecsam Ifanc ar gyfer pob person ifanc 11-25 sy’n byw, gweithio neu’n astudio yn Wrecsam. Cafodd y wefan hon ei llunio er mwyn rhoi ichi well gwybodaeth am y gweithgareddau, y gwasanaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael ichi yn Wrecsam, ynghyd â gwybodaeth a chyngor ar faterion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu bob dydd. Ac ar ben hynny i gyd mae ganddi storïau newyddion, fideos a blogiau sydd wedi cael eu gwneud gan bobl ifanc yn yr ardal er mwyn annog pobl ifanc i ymwneud, yn uniongyrchol, â’r wefan hon.

Yn adran ‘Gwybodaeth’ y wefan mae gwybodaeth am y Deg Hawl a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn unol â Siarter Gwybodaeth Ieuenctid Ewrop. Mae’r adran hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi gwybodaeth fanwl gywir a pherthnasol ichi.

Beth yw TRAC sydd i’w weld yn yr Adran ‘Sefydliadau’?

Mae’r tab sefydliadau ar y wefan yn cysylltu â’r cyfeiriadur gwasanaethau o’r enw TRAC. Cyfleuster chwilio ar-lein yw ‘TRAC’ ynghylch y prosiectau/clybiau lleol a’r gwasanaethau yn Wrecsam sy’n gallu eich helpu i fanteisio ar eich hawliau a’ch iawnderau, ac mae hynny’n cynnwys popeth o Athletau hyd at Ganolfannau Ieuenctid! Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth trwy deipio allweddeiriau i mewn, neu sgrolio i lawr y sefydliadau neu hyd yn oed trwy glicio ar eich ystod oedran.

Pwy sy’n cynnal Wrecsam Ifanc?

Mae ProMo-Cymru wedi cael ei ariannu i ddatblygu gwefannau rhyngweithiol ledled Cymru. Canolfan Wrecsam Ifanc yw’r INFO Shop yn Wrecsam, sef gwasanaeth arbenigol sy’n cael ei reoli gan Wasanaeth Ieuenctid Wrecsam. Mae gweithiwr ieuenctid yn cael ei gyflogi i ddiweddaru rhywfaint o’r wybodaeth ac i uwchlwytho erthyglau a digwyddiadau hefyd. Yn ogystal â hynny mae gennym grŵp o olygyddion ifanc sy’n ysgrifennu erthyglau ar gyfer y wefan ac maent wedi cymryd rhan mewn dylunio’r safle o’r cychwyn cyntaf.

Ar ôl yr ymgynghoriad a gafwyd mewn clybiau ieuenctid ledled Wrecsam aeth cwmni dylunio creadigol ati i lunio’r wefan a byddant yn ei diweddaru yn gyson ac yn rhoi cymorth inni hefyd yn ôl yr angen. Enw’r cwmni yw Burning Red sydd wedi’i leoli yn ardal Bae Caerdydd.

Er mwyn i’r wefan fod yn wych, beth ydym ni ei angen?

Mae arnom angen i CHI uwchlwytho erthyglau, blogiau ac yn y blaen. Gallant sôn am unrhyw beth yr hoffech roi gwybod amdano: newyddion, ysgrifennu creadigol, cipion ymlaen llaw, ysgrifau nodwedd, neu hysbysiad er mwyn gadael i bobl wybod am eich digwyddiad neu beth yw’ch barn (bydd un neu ddau o bobl yn ysgrifennu am wahanol bethau sydd wedi digwydd iddynt). Beth am ichi ddefnyddio’r wefan i feithrin eich sgiliau newyddiadurol a bod yn ‘gyw’ gohebydd yn yr ardal yr ydych chi’n byw ynddi. Gallwch hefyd gael fideos oddi ar YouTube a’u hychwanegu at eitemau newyddion, yn ogystal ag uwchlwytho hyd at bum delwedd i gyd-fynd â’ch stori.

Cyfieithu

Bydd pob un o’n herthyglau yn cael eu cyfieithu er mwyn i bobl allu eu mwynhau yn y ddwy iaith, ac i’r fersiwn Saesneg gael ei rhoi ar wefan Young Wrexham (ac i’r gwrthwyneb hefyd wrth gwrs, sef i’r fersiwn Gymraeg gael ei rhoi ar wefan Wrecsam Ifanc). Gall y gwaith cyfieithu gymryd hyd at 4 wythnos, sy’n swnio’n gyfnod hir braidd. Ond byddwn yn cael erthyglau gwych gennych ac maent yn haeddu cael eu darllen yn Gymraeg a Saesneg. Felly peidiwch â gadael i hynny achosi ichi beidio ag ysgrifennu atom - ewch ati rŵan, rydym yn aros am eich storïau!

Sut alla’i uwchlwytho fy storïau a’u rhoi ar Wrecsam Ifanc?

Os gwnewch chi gymryd munud neu ddau i gofrestru gallwch ddechrau cyflwyno eitemau. Os bydd arnoch angen help llaw, cofiwch anfon e-bost at infoshop@wrexham.gov.uk

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50