Gwybodaeth » Tai
Tai
Mae cartref fforddiadwy a diogel yn un o’r gofynion mwyaf sylfaenol mewn bywyd.
Pa un ai a wyt yn rhentu tŷ neu’n prynu dy gartref dy hun, mae symud allan yn gam mawr, ac mae’n syniad da bod yn barod a chanfod cymaint ag y bo modd am dai.
Mae’r adran hon yn cynnig cymorth a chyngor os wyt yn ystyried gadael cartref, rhentu neu brynu tŷ, ac mae’n cynnwys gwybodaeth am fyw yn a gofalu am dy gartref newydd.
Mae'r tudalennau hyn hefyd yn ystyried rhai o brif achosion digartrefedd, sut elli atal hynny rhag digwydd a sut i gael cymorth os gwnei golli dy lety.