Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Syrffio



Syrffio

  • Dim ond os wyt ti'n nofiwr hyderus y dylet ti roi cynnig ar syrffio
  • Gall y llanw fod yn gyflym a’r dŵr yn annisgwyl, felly mae’n bwysig i ti allu nofio
  • Mae syrffio’n dod yn gamp ffasiynol iawn, yn enwedig ymhlith pobl ifanc
  • Mae llawer o lefydd syrffio poblogaidd dros Gymru, felly mae’n hawdd cymryd rhan a rhoi cynnig ar y gamp
  • Bydd angen i ti wisgo siwt wlyb, oherwydd bod y môr o amgylch Prydain yn oer iawn. Dylai gallu llogi siwt yn y rhan fwyaf o ganolfannau syrffio

Syrffio Barcud

  • Mae syrffio barcud yn golygu syrffio wrth dal barcud a defnyddio’r gwynt i helpu ti reidio’r tonnau
  • Mae amryw o arddulliau o syrffio barcud, yn cynnwys: reidio rhydd, cyflymder, 'boardarcross', cicers a sleiders, 'hangtime', reidio tonnau a dull rhydd

Achub Bywyd Beistonna (Surf Life Saving)

  • Mae Achub Bywyd Beistonna yn weithgaredd unigryw sy’n cyfuno goliau dyngarol a chystadleuaeth elit
  • Ei nodau ac amcanion yw:–
    • achub bywydau
    • datblygu a gwella safonau achub bywyd cenedlaethol a rhyngwladol
    • cydweithio â phob sefydliad arall sydd â’r un amcanion
    • darparu cyfleusterau i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau achub bywyd
  • Mae Cymdeithas Achub Bywyd Beistonna Cymru (SLSA) yn elusen nid er elw cofrestredig gyda 26 o glybiau achub bywyd gwirfoddol cysylltiedig – o Fae Jackson, y Barri, yn y dwyrain, i Aberystwyth yn y gorllewin. Mae’n cwmpasu pob awdurdod lleol o Fro Morgannwg i Geredigion
  • Mae achubwyr bywyd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i brofi eu ffitrwydd a’u sgiliau syrffio mewn cystadlaethau lleol a Phencampwriaethau Cymru, Prydain a Rhyngwladol
  • Pencampwriaethau Achub Bywyd Beistonna Cymru yw cyfarfod achub bywyd mwyaf Prydain
  • Mae’r gystadleuaeth yn dechrau gyda digwyddiadau iau i blant dros 12 oed, y grŵp oedran canolradd yw 16–18, wedyn oedolion hyd at 35 oed, a meistri dros 35 oed
  • Mae’r cystadlaethau’n cael eu rhannu’n chwe phrif gategori:–
    • nofio
    • padlo sgïo syrffio
    • padlo Bwrdd Malibu
    • traeth (fflagiau traeth, sbrintio, rhedeg 2k)
    • digwyddiadau tîm
    • digwyddiadau dŵr llonydd/pwll nofio (yn ystod misoedd y gaeaf)

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50