Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Chwaraeon Modur
Yn yr Adran Hon
- Aerobeg
- Hoci Aer
- Chwaraeon Awyr
- PlDroed Americanaidd
- Saethyddiaeth
- Athletau
- Badminton
- Pl-Fas
- Pl Fasged
- Bowls
- Bocsio
- Dringo
- Criced
- Beicio
- Dartiau
- Deifio a Snorcelu
- Ffensio
- Pysgota
- Pl-Droed
- Golff
- Gymnasteg a Thrampolinio
- Hoci
- Marchogaeth
- Hoci I
- Chwaraeon I
- Lacrs
- Crefft Ymladd
- Chwaraeon Modur
- Pl-Rwyd
- Gweithgareddau Awyr Agored
- Parkour/Rhyddredeg
- Chwaraeon Rolio
- Rhwyfo
- Rygbi
- Hwylio
- Saethu
- Sgrialu
- Sgo ac Eirafyrddio
- Snwcer A Pŵl
- Sboncen
- Syrffio
- Nofio ac Achub Bywyd
- Tenis Bwrdd
- Tenis
- Pl Foli
- Sgo Dŵr
- Yoga
Chwaraeon Modur
- Gall chwaraeon modur fod yn beryglus iawn ac yn gallu rhoi dy fywyd dan fygythiad – dylet wneud gweithgareddau chwaraeon modur gyda’r offer cywir yn unig, ar drac cywir ac o dan oruchwyliaeth pobl broffesiynol hyfforddedig
- Mae chwaraeon modur (adnabwyd hefyd fel rasio ceir, chwaraeon ceir neu rasio moduron) yn golygu rasio cerbydau modur
- Mae chwaraeon modur yn cynnwys rasio beic modur, yn ogystal â rasio cwch modur a rasio awyr
- Mae sawl gwahanol fath o chwaraeon modur fel rasio sedd sengl, ralïo, rasio ceir teithio a rasio iâ
- Gall unrhyw un dros 18 oed gyrru mewn cystadlaethau
- Gall wneud y rhan fwyaf o chwaraeon modur mewn ceir arferol, ac mae digwyddiadau ar gyfer hen geir, ceir newydd sbon a cheir bach
- Efallai na fydd angen car arnat ti hyd yn oed – ar gyfer llawer o chwaraeon modur mae angen rhywun arall wrth ochr y gyrrwr
- Os wyt ti eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon modur ond ddim eisiau cystadlu, gallet ddod yn farsial – mae digon o gyfleoedd yng Nghymru – neu gallet fod yn wyliwr
- Mae angen tua 5,000 o swyddogion a marsialiaid ar gyfer Wales Rally GB bob blwyddyn
- Gallet gael swydd barhaol yn y diwydiant chwaraeon modur hefyd – dywedir yn aml mai Prydain yw canolbwynt y byd chwaraeon modur, ac mae’n cyflogi tua 50,000 o bobl yn amser llawn a 100,000 o bobl yn rhan amser yn y diwydiant
Rasio sedd sengl (Fformiwla Un)
- Rasio sedd sengl (sydd hefyd yn cael ei alw’n rasio olwyn agored) yw’r mwyaf cyfarwydd o’r holl chwaraeon modur
- Mae’r ceir a ddefnyddir ar gyfer y gamp hon wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer rasio cyflym
- Mae rasys yn cael eu cynnal ar draciau caeedig sydd wedi'u dylunio'n arbennig ar gyfer traciau fent neu stryd, sydd yn cael eu cau
- Gall gyrwyr gyrraedd cyflymder o fwy na 200 milltir yr awr
- Er mwyn dysgu rasio moduron, rhaid i ti ddod o hyd i’r canolfan chwaraeon modur agosaf
- Y digwyddiad enwocaf ym myd chwaraeon modur yw Pencampwriaeth Fformiwla Un y Byd
- Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol lle mae’r gweithgynhyrchwyr ceir ac injans rhyngwladol mwyaf yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i greu'r safonau uchaf mewn technoleg a medr y gyrrwr
- Rasys sedd sengl eraill yw GP2, Formula Nippon, Formula Nissan, Formula 3, Formula Atlantic ac Al Grand Prix
Gwibgertio
- Math arall o rasio sedd sengl yw gwibgertio
- Mae hyn yn defnyddio peiriant bach, am bris rhesymol, ar draciau bach
- Mae hyn wedi’i gynllunio’n arbennig i bobl ifanc. Mewn canolfan gwibgertio ceir trac iau i bobl 8–13 oed a thrac hŷn ar gyfer pobl dros 14 oed
- Mae gwibgertio yn un o’r campau chwaraeon modur sy’n tyfu cyflymaf yn y byd
- Dyma’r cam cyntaf tuag at rasio modur proffesiynol
- Dechreuodd y rhan fwyaf o yrwyr F1 eu gyrfaoedd trwy wibgertio
- Mae cannoedd o gwmnïau ac ysgolion gwibgertio yn y DU. Ymwela â UK Karting a gweld y cyfeirlyfr cysylltiadau
Ralïo/rasio rali
- Mae ralïo’n defnyddio ceir y gall y cyhoedd eu prynu, er eu bod wedi’u haddasu. Maen nhw’n cael eu rasio ar ffyrdd cyhoeddus sydd wedi'u cau, neu fannau oddi ar y ffyrdd
- Mae dau fath o ralïo – ralïau ffordd a ralïau cymal
- Mae ralïau ffordd yn cael eu cynnal ar ffyrdd cyhoeddus, ac mae ralïau cymal yn cael eu cynnal ar draciau
- Mae un rali’n cwmpasu gwahanol fathau o arwynebeddau
- Gwaith y cyd–yrrwr yw arwain y gyrrwr a’i helpu i gwblhau pob cymal o’r rali mor gyflym â phosibl
- Bydd yn darllen y nodiadau yn uchel dros system intercom fel y gall y gyrrwr ei glywed dros sŵn y car
- Yr enillydd yw’r gyrrwr sy’n cwblhau yn yr amser cyflymaf posibl
- Y digwyddiad mwyaf yw Pencampwriaeth Ralïo’r Byd, ond mae pencampwriaethau rhanbarthol hefyd
- Mae rhai ralïau enwog yn cynnwys Rali Monte Carlo a Rali’r Ariannin
- Mae Clybiau Modur yn rhedeg un neu ddau o ralïau bob blwyddyn
- Os wyt ti eisiau rhoi cynnig ar ralïo, cysyllta â’r clwb chwaraeon modur lleol
A wyddost ti...?
- Mae ceir Fformiwla 1 yn cyrraedd cyflymder o fwy na 320 cilomedr yr awr/ 200 milltir yr awr
- Mae hefyd 800 o glybiau modur cofrestredig sy’n trefnu 4,700 o ddigwyddiadau gwahanol mewn 22 disgyblaeth
- Mae mwy na 30,000 o unigolion yn meddu ar Drwyddedau Cystadlu’r Motor Sports Association (MSA)
- Mae o leiaf 100,000 o gystadleuwyr ym myd chwaraeon modur ym Mhrydain
- Fformiwla Un yw camp ddrutaf y byd. Mae rhai timau’n gwario dros £115m y flwyddyn