Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau
Cyfraith a Hawliau
Mae'r rheolau a'r cyfreithiau rydym yn glynu atynt mewn cymdeithas yn bodoli i sicrhau bod yna safonau o ymddygiad a threfn yn y wlad. Drwy lynu at y cyfreithiau hyn, mae pobl yn ein cymdeithas yn derbyn gofal ac amddiffyniad y llywodraeth.
Adnabuwyd hyn fel 'cytundeb cymdeithasol', cytundeb rhwng y bobl a'r wladwriaeth. Dy hawliau di ydy'r rhyddidau ti'n ei fwynhau fel rhan o'r cytundeb cymdeithasol yma. Mae pawb efo hawliau, maent yn cael eu hamddiffyn gan gyfreithiau ac maent yn gosod allan lefel penodol o ofal a thriniaeth sy'n ddisgwyliedig o fewn cymdeithas. Nid all cymryd dy hawliau oddi wrthyt ti, ond os ydy cyfraith yn cael ei thorri yna efallai bydd dy ryddid di'n cael ei gymryd oddi arnat oherwydd hynny.
Mae'n bwysig i wybod a deall beth yw'r canlyniadau os wyt ti'n torri'r gyfraith a pa broses i'w dilyn os wyt ti'n dod yn ddioddefwr trosedd.
Mae hefyd yn bwysig iawn gwybod a deall dy hawliau a sut i'w hymarfer.
Mae'r adran yma yn darparu ti gyda gwybodaeth am y gyfraith a hawliau, plismona, mathau o droseddau a'r canlyniadau o dorri'r gyfraith, gan gynnwys dy hawliau fel dinesydd.
1 Comment – Postiwch sylw
Rhoddwyd sylw 84 mis yn ôl - 16th October 2009 - 05:36am
Thanks for the downloads - they are great