Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Badminton



Badminton

Gellir chwarae Badminton yn unigol, neu mewn parau cymysg neu un–rhyw. Mae rheolau ychydig yn wahanol ar gyfer gemau unigolion a pharau.

Mae gêm menywod ychydig yn wahanol i gêm dynion.

  • Rhaid i ddynion sgorio 15 o bwyntiau i ennill, rhaid i fenywod sgorio 11 o bwyntiau i ennill
  • Y person/pâr sy’n ennill dwy gêm o dair sy’n ennill y gornest
  • Rwyt ti'n ennill rali os wyt ti'n taro’r wennol (’shuttle’) dros y rhwyd ac i’r llawr ar ochr arall y cwrt
  • Rwyt ti'n colli rali os wyt ti'n taro'r wennol i mewn i’r rhwyd, neu dros y rhwyd ond y tu allan i derfyn cwrt y gwrthwynebydd
  • Rwyt ti hefyd yn colli rali os wyt ti'n taro’r wennol mwy nag unwaith cyn iddi groesi’r rhwyd neu os yw’n cyffwrdd â thi neu dy ddillad
  • Ti ddim ond yn gallu sgorio os mai ti oedd yn serfio, ac mae’r pwyntiau yn codi fesul un bob tro
  • Mewn gemau pâr neu unigol, rhaid cael 15 pwynt i ennill gêm dynion ac 11 pwynt i ennill gêm menywod – cyhyd â bod yr enillydd dau bwynt yn glir o’i wrthwynebydd
  • Gall ddarganfod rhagor am Fadminton trwy gysylltu ag Undeb Badminton Cymru neu dy ganolfan chwaraeon lleol

Badminton yn yr ysgol

Mae Undeb Badminton Cymru yn cynnal Digwyddiad Ysgolion Gorau Cymru a gall pob ysgol sydd wedi cofrestru cystadlu. Gall uchafswm o ddau dîm bechgyn a dau dîm merched o bob ysgol gymryd rhan.

Mae’r Undeb Badminton hefyd yn cynnal Twrnamaint ’Junior Shuttle’ a Chyfres ’Junior Satellite’.

A wyddost ti?

Badminton yw camp gyfranogi fwyaf poblogaidd y byd – heblaw am bêl–droed. Badminton yw chwaraeon raced cyflymaf y byd – gellir taro’r wennol i gyflymder o hyd at 200 milltir yr awr.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50