Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Marchogaeth



Marchogaeth

  • Mae marchogaeth yn derm sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r gweithgaredd o reidio ceffyl fel hobi neu chwaraeon cystadleuol
  • Mae chwaraeon marchogaeth cystadleuol yn cynnwys dressage, neidio, dygnwch (endurance), cystadlaethau (eventing), rasio â harnais a rasio ceffylau
  • Os nad wyt ti eisiau cystadlu, gallet reidio ceffyl fel hobi ac fel ffordd wych o ddarganfod yr awyr agored
  • Mae pobl o bob oedran a gallu yn mwynhau marchogaeth
  • Mae marchogaeth yn defnyddio llawer o egni ac mae’n dda i'r cyhyrau. Mae awr o farchogaeth yn gyfwerth â loncian neu gêm o denis
  • Fel camp gystadleuol, mae’n rhoi cyfle i ti feistroli sgiliau anhygoel

Dillad

  • Mae dillad marchogaeth wedi’i ddylunio i sicrhau dy fod yn ddiogel ac yn gyfforddus
  • Mae dillad marchogaeth yn cynnwys:
    • Het marchogaeth, siaced, amddiffynnydd corff, jodhpurs a chlosau pen–lin (breeches)
    • Trywsus lledr a choesarnau, esgidiau reidio

Ysgolion Marchogaeth

  • Dylet ti sicrhau fod yr ysgol farchogaeth rwyt ti'n mynd iddi yn cael ei chymeradwyo gan y British Horse Society a/neu’r Association of British Riding Schools fel eu bod yn bodloni safonau diogelwch marchogaeth cenedlaethol
  • Gall marchogaeth fod yn beryglus oherwydd natur anrhagweladwy ceffylau a merlod – hyd yn oed mewn ysgol farchogaeth gymeradwy - dylet ti sicrhau fod yr hyfforddwyr wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf ac yn meddu ar dystysgrif cymorth cyntaf gyfredol
  • Pa un ai wyt ti eisiau cystadlu mewn un o’r digwyddiadau hyn neu ddysgu i reidio ceffyl yn unig, dylet ti ymuno ag ysgol farchogaeth
  • Mae mwy na 430 o ysgolion marchogaeth yn y DU sy’n aelodau cyswllt o’r British Horse Society
  • Fel arfer, mae ysgolion marchogaeth yn cynnal gwersi preifat, lled–breifat a gwersi grŵp
  • Mae gwersi preifat yn golygu sesiynau ar ben dy hun gyda hyfforddwr
  • Gall lled–breifat olygu bod dau neu dri disgybl a hyfforddwr
  • Mae gwersi grŵp yn golygu bod grŵp mawr o bobl yn cael eu dysgu gan un hyfforddwr
  • Mae gwersi preifat yn ddrutach ond dyma’r hyn a argymhellir i ddechreuwr
  • Mae bob amser yn syniad da ymweld ag ysgol farchogaeth cyn ymuno i weld y cyfleusterau, boed hynny yn yr awyr agored neu dan do, ac edrych ar y ceffylau a’r merlod y byddi di'n eu reidio
  • Os nad wyt ti eisiau ymuno ag ysgol farchogaeth neu ddod yn farchog medrus, mae modd reidio ceffyl mewn parc neu ar fferm – mae llawer o leoedd yn cynnig marchogaeth hamddenol achlysurol
  • Mae’r gallu i reidio ceffyl yn ddefnyddiol ar gyfer pwrpasau ymarferol, fel gweithio gyda’r heddlu er enghraifft
  • Gall pobl ag anabledd fwynhau marchogaeth hefyd – mae reidio therapiwtig a hipotherapi yn ddau fath o reidio a all fod o fudd mawr i bobl ag anableddau

Diogelwch

  • Pan fyddi di'n marchogaeth ar y ffordd mae’n rhaid i ti ddilyn Rheolau’r Ffordd Fawr sy’n amlinellu’r canllawiau, a gallet hefyd geisio cyngor gan dy hyfforddwr ymlaen llaw ynglŷn â sut i reoli dy geffyl ar y ffordd
  • Dylet ti wirio dy gyfrwy a’r tac yn rheolaidd i sicrhau reidio diogel a bod dy geffyl yn gyfforddus
  • Mae’r BHS yn gweithredu Prawf Marchogaeth a Diogelwch Ffordd ac mae llawer o ysgolion marchogaeth yn cynnal diwrnodau hyfforddi mewn reidio a diogelwch ffordd

Dressage

  • Mae dressage yn gamp marchogaeth sy’n profi gallu corfforol y ceffyl, ei ystwythder, sut mae’n ymateb i’w berchennog, ei gydbwysedd a’i ufudd–dod
  • Caiff ei ddisgrifio fel ’gymnasteg neu ddawns ar gefn ceffyl’
  • Mewn cystadlaethau dressage, mae’r ceffyl a’r marchog yn cael sgôr yn ôl pa mor dda maen nhw’n perfformio gyda’i gilydd
  • Mae’r ceffyl yn cael ei sgorio ar:
    • Gymhelliad, rhyddid ei symudiadau, rheoleidd–dra ei gamau
  • Mae’r marchog yn cael sgôr ar:
    • Safle, cywirdeb, effeithiolrwydd ei gymhorthion
  • Ceir sawl lefel o dressage, o dressage rhagbaratoawl i dressage Grand Prix
  • Ar gyfer dressage rhagbaratoawl, fel arfer mae gofyn i’r ceffyl berfformio cerdded, trotio a hanner carlam, cylchoedd a throi
  • Mewn dressage Grand Prix, rhaid i’r marchogwr a’r ceffyl berfformio symudiadau mwy cymhleth fel:
    • Piaffe, sef troi yn yr unfan
    • Pirwetau hanner carlam, lle mae’r ceffyl yn troi ar ei goesau cefn tra’n hanner carlamu

Neidio

  • Mae neidio sioe yn ddigwyddiad sy'n cael ei amseru lle mae’r ceffyl a’r marchog yn cael eu barnu ar eu gallu i neidio dros gyfres o rwystrau mewn trefn benodol
  • Perthi neu ffensys yw’r rhwystrau hyn gan amlaf
  • Mae barnwyr am i gystadleuwyr gwblhau’r cwrs mor rhwydd â phosibl – os yw ceffyl yn gwrthod neidio dros rwystr neu’n taro un i lawr, caiff hyn ei farcio i lawr
  • Ar y lefel uchaf, gall rhai ffensys fod mor uchel â 6 troedfedd

Dygnwch (Endurance)

  • Mae dygnwch yn gamp farchogaeth gystadleuol lle mae’n rhaid i’r marchogwr a’r ceffyl reidio dros bellter hir o fewn amser penodol
  • Mae’r pellter yn amrywio o 15 i 100 milltir
  • Y ceffyl sy’n cwblhau’r pellter gyflymaf sy’n ennill

Rasio ceffylau

  • Mae rasio ceffylau yn gamp lle mae ceffylau a’u marchogwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ar drac
  • Mae rasio ceffylau’n gamp boblogaidd ymhlith ymwelwyr a gall pobl osod bet ar ganlyniad ras
  • RHYBUDD: Mae betio’n anghyfreithlon os wyt ti'n iau na 18 mlwydd oed
  • Y corff llywodraethu ar gyfer rasio ceffylau ym Mhrydain yw’r British Horseracing Board
  • Mae dau brif fath o rasys ceffylau – rasys y National Hunt a rasys fflat
  • Mae rasys y National Hunt yn golygu neidio dros rwystrau fel ffensys a ffosydd dŵr
  • Mae’r rasys hyn yn cael eu cynnal yn ystod tymor y National Hunt sy’n mynd o ganol mis Hydref tan ddiwedd mis Ebrill
  • Mae rasys fflat yn golygu rasio’n gyflym heb unrhyw rwystrau
  • Cânt eu cynnal yn ystod y tymor Fflat o fis Mawrth tan fis Tachwedd
  • Cyfarfod rasio ceffylau enwocaf y byd yw Royal Ascot
  • Mae’r Cheltenham National Hunt Festival a’r Grand National yn ddigwyddiadau rasio ceffylau cenedlaethol o bwys hefyd

A wyddost ti…?

  • Mae dros 38,000 o aelodau yn y British Horse Society
  • Dechreuodd dressage mor bell yn ôl â 430 CC, yn oes marchogaeth glasurol Gwlad Roeg
  • Daeth dressage yn gamp Olympaidd yn 1912, ond dim ond swyddogion milwrol oedd yn gymwys i gystadlu tan 1952
  • Mae rasio ceffylau’n un o’r campau hynaf oll – roedd yn gamp ymhlith pobl y llwythi crwydrol yng Nghanolbarth Asia
  • Dechreuodd rasio ceffylau ym Mhrydain mor gynnar â’r 12fed Ganrif pan ddaeth marchogion Lloegr yn ôl o’r Croesgadau gyda cheffylau Arabaidd
  • Fe wnaeth y ceffylau Arabaidd a cheffylau Lloegr fridio. Canlyniad hyn yw’r ceffyl pedigrî, sef y math o geffyl a ddefnyddir mewn rasio ceffylau heddiw
  • Cafodd Royal Ascot ei sefydlu gan y Frenhines Anne yn 1711

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50