Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Beicio



Beicio

Mae beicio'n ffordd gyfleus a rhad o deithio ac yn ffordd wych o ddarganfod dy ardal leol. Gall beicio roi llawer o ryddid i ti ond mae'n bwysig paratoi ar gyfer y tywydd a chyflwr y ffyrdd. Cadwa'n ddiogel trwy wisgo helmed beicio.

Gall fwynhau beicio'n unigol, neu ymuno ag eraill a beicio gyda'ch gilydd mewn clwb beicio. Mae yna lawer o lwybrau beicio yng Nghymru i ti roi cynnig arnynt.

Beicio yn y nos

  • Os wyt ti'n beicio yn y nos, rhaid gosod o leiaf dau golau ar y beic yn ôl y gyfraith – golau gwyn ar y blaen a choch ar y cefn
  • Rhaid i'r beic gael adlewyrchydd coch ar y cefn
  • Sicrha bod pobl yn gallu dy weld – gwisga ddillad adlewyrchol fel bod cerbydau a cherddwyr yn dy weld di

Beicio mewn tywydd gwlyb

  • Gall beicio mewn tywydd gwlyb fod yn beryglus, gan fod glaw yn lleihau faint fedri di ei weld ac mae risg gall dy deiars lithro
  • Bydd yn cymryd mwy o amser nag arfer i arafu pan fydd arwynebedd y ffordd yn wlyb – felly stopia'n gynnar ac yn araf
  • Gwisga ddillad gwrth ddŵr er mwyn cadw'n sych a chynnes
  • Profa dy brêcs, gêrs a theiars i weld os ydynt yn gweithio'n iawn

Beicio mewn tywydd poeth

  • Sicrha dy fod di'n yfed digon o hylif mewn tywydd poeth fel nad wyt ti'n dadhydradu dy hun
  • Amddiffynna dy groen rhag yr haul trwy wisgo eli haul ar dy wyneb a gwddf

Medrusrwydd beicio

  • Os nad wyt ti wedi dysgu beicio neu os nad wyt ti'n teimlo'n hyderus am feicio ar y ffordd, galli di wneud cwrs medrusrwydd beicio gyda'r Rhwydwaith Beicwyr Cenedlaethol: CTC Cymru

Gofalu am dy feic

  • Mae'n syniad da prynu clo ar gyfer dy feic er mwyn ei gadw'n ddiogel – siarada gyda rhywun yn dy siop feicio leol am gyngor
  • Cadwa dy feic mewn cyflwr da trwy sicrhau bod yr olew yn y mannau cywir, bod digon o aer yn y teiars a bod y brêcs a'r gêrs yn gweithio'n iawn

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50