Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Crefft Ymladd



Crefft Ymladd

  • Gall crefft ymladd (martial arts) fod yn beryglus a dylai ei hymarfer gyda gofal a disgyblaeth, dan gyfarwyddyd hyfforddwyr proffesiynol
  • Gelwir unrhyw fath o ymladd di–arf yn grefft ymladd
  • Mae pobl yn ymarfer crefft ymladd fel chwaraeon cystadleuol ac er mwyn cadw’n heini, i amddiffyn eu hunan, i fyfyrio, i ddatblygu disgyblaeth feddyliol, datblygu cymeriad a hunanhyder

Karate

  • Mae Karate yn ddull traddodiadol Japaneaidd o ymladd heb arfau
  • Mae’n cynnwys technegau dyrnu, bwrw a chicio. Mae’r person y taro a chicio pwyntiau sensitif ar gorff ei wrthwynebydd
  • Mae’r rhan fwyaf o glybiau karate yn cynnal sesiynau hyfforddi am awr neu ddwy. Os wyt ti'n ddechreuwr, efallai y bydd sesiwn awr yn ddigon hir
  • Wrth i ti ddatblygu, gallet sefyll arholiadau graddio sy’n ddigwyddiadau ffurfiol lle caiff dy sgiliau karate eu barnu. Os wyt ti'n llwyddo i basio’r radd honno, bydd dy glwb neu sefydliad yn cydnabod dy hawl i wisgo gwregys o liw gwahanol. Mae lliw dy wregys yn adlewyrchu lefel dy allu i ymarfer karate. Gwyn yw lliw’r gwregys y lefel mwyaf sylfaenol, a du yw’r lliw uchaf

Jiwdo

  • Mae Jiwdo yn gelf hunanamddiffyn Japaneaidd a hefyd yn gamp Olympaidd
  • Mae’n fath o reslo lle rwyt ti'n troi cryfder dy wrthwynebydd yn wendid er mwyn ennill

Kung Fu

  • Mae Kung Fu yn ddull ymladd Tsieineaidd traddodiadol
  • Mae’n cyfuno cicio, taro, troi’r corff, dulliau osgoi, cyrcydu, neidio, cwympo, a throsbennu

Cic–bocsio

  • Mae cic–bocsio yn gorfforol iawn. Os oes gen ti ddiddordeb mewn dysgu cic–bocsio, awgrymir i ti ymweld â’r clwb lleol i wylio sesiwn yn gyntaf
  • Mae'n ymarfer athletig sydd yn cynnwys bocsio cysgod, gwaith gyda bagiau trwm, cryfhau a chyflyru. Mae’n canolbwyntio ar ran uchaf y corff trwy ffyrdd gwahanol o ddyrnu, ac ar ran isaf y corff trwy gicio
  • Rhaid gwisgo menig bocsio neu lapio’r arddyrnau wrth ymarfer
  • Fe elwir math poblogaidd o gic–bocsio yn gic–bocsio aerobeg neu gardiofasgwlaidd (cardio), sy’n cyfuno elfennau bocsio, crefft ymladd ac aerobeg
  • Gwisga ddillad cyfforddus fel y gall dy freichiau a dy goesau symud i bob cyfeiriad, a sicrha dy fod yn yfed digonedd o ddŵr cyn, ar ôl ac yn ystod ymarfer
  • Dechreua trwy gicio’n isel ac yna byddi di'n parhau i ddysgu technegau cic–bocsio eraill

Tai Chi

  • Mae Tai Chi yn ymarfer traddodiadol Tsieineaidd i ymlacio’r meddwl a’r corff
  • Mae’n lleihau straen ac yn hyrwyddo lles cyffredinol y corff a’r meddwl
  • Mae’n cyfuno symudiadau gosgeiddig (graceful), myfyrio a rheoli anadlu i wella llif egni'r corff. Mae 108 o ymarferiadau cymhleth yn cael eu perfformio mewn ffordd araf, ymlaciol, llifol dros gyfnod o 30 munud

Taekwondo

  • Mae Taekwondo yn grefft ymladd Coreaidd sy’n debyg i karate
  • Mae’n grefft hunanamddiffyn
  • Mae’n rhoi pwyslais ar gicio uchel a dyrnu
  • Nod Taekwondo yw cicio a bwrw’r gwrthwynebydd cymaint o weithiau ag sy’n bosib
  • Ceir tair rownd o dri munud ac mae’r ymladd yn digwydd ar fat wyth medr sgwâr

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50