Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Hoci



Hoci

  • Mae hoci yn gamp lle mae dau dîm yn cystadlu trwy basio pêl neu gnap (puck) gan ddefnyddio ffon hoci a cheisio sgorio yn rhwyd neu gôl y gwrthwynebwyr, trwy fwrw’r bêl neu’r cnap heibio’r gôl–geidwad
  • Mae nifer o wahanol fathau o hoci, yn cynnwys hoci maes, hoci iâ a hoci rholer
  • Mae hoci iâ a hoci maes yn cael eu chwarae yn broffesiynol a gan amaturiaid yn y DU
  • Mae 11 o chwaraewyr mewn tîm

Hoci maes

  • Mae hoci maes yn fersiwn o hoci sy’n cael ei chwarae ar rafel, glaswellt, tywod neu laswellt ffug
  • Mae’n cael ei chwarae gan amlaf yng Ngorllewin Ewrop, Asia, Awstralia a Seland Newydd
  • Mae ffyn hoci maes yn llai na ffyn hoci iâ – mae gan rai modern lafn bachog, ond mae gan ffyn hoci iâ lafn hir sy’n gallu bod yn fflat ar wyneb yr iâ pan fydd y ffon yn cael ei dal yn unionsyth
  • Mae hoci maes yn cael ei chwarae yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd ym Mhrydain ac mewn cynghreiriau ac academïau ym Mhrydain a gweddill Ewrop

Hoci yng Nghymru

  • Mae llawer o dimau hoci proffesiynol i ddynion a menywod yng Nghymru, sy’n gysylltiedig ag Undeb Hoci Cymru
  • Mae’r rhan fwyaf o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru’n gysylltiedig ag Undeb Hoci Cymru
  • Os nad oes tîm hoci yn dy ysgol, cysyllta â’r canolfan chwaraeon lleol i gael gwybodaeth am y tîm hoci lleol

Hoci iâ

  • Mae hoci iâ yn cael ei chwarae ar iâ, gyda chnap rwber sy’n pwyso 7–8 owns
  • Mae hoci iâ yn cael ei chwarae yn bennaf yng Nghanada, Rwsia, Unol Daleithiau America a’r Hemisffer Gogleddol, yn enwedig yn Sgandinafia
  • Mae'n cael ei chwarae llai ym Mhrydain, ond mae yna Gynghrair Hoci Iâ Elit Prydain, sef cynghrair gorau hoci iâ proffesiynol y DU
  • Mae’r Cardiff Devils yn glwb hoci iâ Cymraeg cyfarwydd sy’n aelod o’r Cynghrair Elit

Hoci rholer

  • Gan fod hoci rholer yn defnyddio esgidiau sglefrio gyda phedair olwyn, mae weithiau yn cael ei alw'n hoci 'quad'
  • Mae hoci rholer ar lefel rhyngwladol yn cael ei alw'n Hoci Rinc
  • Mae hoci rholer yn gêm gyflym sy’n cael ei chwarae ar esgidiau sglefrio 'quad' mewn rhinc dan do gyda phêl
  • Mae ffyn hoci rinc efo siâp 'L' wedi'i gyrlio ac maent tua'r un maint â'r rhai defnyddir mewn hoci maes.
  • Mae hoci rinc yn boblogaidd yng ngwledydd de Ewrop fel Sbaen, Portiwgal a’r Eidal, a rhai gwledydd yn Ne America fel Brasil a’r Ariannin

Hoci inline

  • Mae yna sawl amrywiaeth o hoci inline, i gyd yn cael ei chwarae ar esgidiau sglefrio inline yn defnyddio ffyn hoci iâ
  • Mae hoci inline yn fath o hoci sy’n debyg i hoci iâ – mae'r gêm yn cael ei chwarae gan ddau dîm, gyda phedwar o sglefrwyr a gôl–geidwad ar bob ochr, ar rinc sych
  • Mae’r gêm yn cael ei chwarae mewn dau gyfnod 20 munud
  • Mae hoci inline efo tebygrwydd i hoci rholer ac mae hefyd yn cael ei alw'n hoci rholer yn aml, ond mae'n wahanol gan fod y math o esgidiau sglefrio a'r rheolau gêm yn wahanol

A wyddost ti…?

  • Mae hoci iâ yn cael ei chwarae hefyd yn Gemau Olympaidd y Gaeaf ac mae’r rheolau ychydig yn wahanol i’r rheiny ar gyfer y Cynghrair Hoci Cenedlaethol
  • Y timau sy’n cymryd rhan yng Nghynghrair Elit Hoci Iâ Prydain yw:
    • Sheffield Steelers
    • Cardiff Devils
    • Belfast Giants
    • Edinburgh Capitals
    • Coventry Blaze
    • Nottingham Panthers
    • Braehead Clan
    • Dundee Stars
    • Fife Flyers
    • Hull Stingrays

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50