Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Deifio a Snorcelu



Deifio a Snorcelu

Os wyt ti'n ystyried rhoi cychwyn ar unrhyw fath o chwaraeon dan dŵr, dylet ti gysylltu â chlwb cofrestredig oherwydd ei fod yn hynod beryglus deifio neu snorcelu heb yr offer a'r dillad cywir.

Dim ond os wyt ti'n nofiwr hyderus dylet ti roi cynnig ar ddeifio neu snorcelu.

Deifio

  • Y ffordd fwyaf cyffredin o ddysgu deifio yw trwy ddilyn cwrs lle byddi di'n dechrau mewn pwll nofio ac yn symud i ddŵr agored wrth i ti ddod yn fwy hyderus
  • Dylet ti wneud yn siŵr bod y clwb deifio lleol wedi cofrestru gydag asiantaeth ddeifio. Fel arall, ni fydd dy gymhwyster yn cael ei gydnabod y tu allan i'r clwb
  • Yr asiantaethau mwyaf poblogaidd yn y DU yw'r British Sub Aqua Club (BSAC) a'r Professional Association of Diving Instructors (PADI)
  • Er mwyn deifio ar ben dy hun, rhaid i ti ennill y cymhwyster perthnasol sydd wedi'i gymeradwyo gan asiantaeth ardystio gofrestredig. Cyn i ti fynd ar ddeif gydag unrhyw glwb neu ysgol, byddan nhw'n gofyn i weld dy dystysgrif i weld os wyt ti yn ddeifiwr cymwysedig
  • Bydd angen i ti wisgo siwt wlyb i fynd i ddeifio mewn dŵr agored. Fe ddylai ti fedru rhentu un o'r rhain o dy glwb deifio lleol, a'r offer anadlu cywir hefyd

Snorcelu

  • Mae snorcelu'n weddol rhad ac yn hawdd ei wneud. Mae'r camau sylfaenol yn hawdd eu dysgu
  • Bydd angen masg a snorcel arnat ti er mwyn gweld ac anadlu o dan y dŵr
  • Mae'n dod yn fwyfwy poblogaidd i fynd i snorcelu tra ar wyliau oherwydd bod tirwedd dan dŵr anhygoel mewn llawer o wledydd y tu allan i'r DU
  • Mae yna glybiau gallet ti ymuno â nhw i wella dy sgiliau ac i wneud ffrindiau fydd yn gallu mynd i snorcelu gyda thi

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50