Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Pl Foli
Yn yr Adran Hon
- Aerobeg
- Hoci Aer
- Chwaraeon Awyr
- PlDroed Americanaidd
- Saethyddiaeth
- Athletau
- Badminton
- Pl-Fas
- Pl Fasged
- Bowls
- Bocsio
- Dringo
- Criced
- Beicio
- Dartiau
- Deifio a Snorcelu
- Ffensio
- Pysgota
- Pl-Droed
- Golff
- Gymnasteg a Thrampolinio
- Hoci
- Marchogaeth
- Hoci I
- Chwaraeon I
- Lacrs
- Crefft Ymladd
- Chwaraeon Modur
- Pl-Rwyd
- Gweithgareddau Awyr Agored
- Parkour/Rhyddredeg
- Chwaraeon Rolio
- Rhwyfo
- Rygbi
- Hwylio
- Saethu
- Sgrialu
- Sgo ac Eirafyrddio
- Snwcer A Pŵl
- Sboncen
- Syrffio
- Nofio ac Achub Bywyd
- Tenis Bwrdd
- Tenis
- Pl Foli
- Sgo Dŵr
- Yoga
Pêl Foli
- Mae pêl foli yn gamp lle mae dau dîm yn bwrw pêl ag aer ynddi gyda’u dwylo dros rwyd uchel sy’n eu gwahanu
- Mae chwe chwaraewr ym mhob tîm a gall chwaraewyr fod yn un–rhyw neu’n gymysg
- Y nod yw sgorio pwyntiau trwy geisio taro’r cwrt ar yr ochr arall i’r rhwyd neu thrwy wneud i’r tîm arall fethu â dychwelyd y bêl
- Mae’r timau’n bwrw’r bêl yn ôl ac ymlaen, gan sgorio pwynt os yw’r bêl yn taro cwrt y tîm arall, os yw tîm yn cyflawni gwall neu os ydyn nhw’n methu â dychwelyd y bêl
- Gall y tîm geisio deirgwaith i roi’r bêl dros y rhwyd, ac os ydyn nhw’n methu, bydd y tîm arall yn ennill pwynt
- Ar ôl serfio’r bêl ni ddylai’r gwrthwynebwyr ddefnyddio mwy na thri ergyd ymhlith ei gilydd i roi’r bêl yn ôl dros y rhwyd
- Rwyt yn sgorio ‘ace’ trwy serfio’r bêl sy’n glanio yng nghwrt y tîm arall heb i neb gyffwrdd â hi
- Mae pêl foli yn cael ei chwarae ar gyrtiau 18 medr o hyd a 9 medr o led, wedi’u rhannu’n ddau gwrt 9 medr x 9 medr gan rwyd yn y canol
- Mae tri chwaraewr yn sefyll mewn rhes yn y cefn a thri chwaraewr mewn rhes yn y blaen
- Ar ôl i dîm ennill y serf, mae’n rhaid i aelodau’r tîm gyfnewid lle fel bod y chwaraewyr yn symud mewn cyfeiriad clocwedd ac yn newid safle yn barhaus wrth chwarae
- Mae cyrtiau’r tîm wedi’u hamgylchynu gan ardal o’r enw ‘rhanbarth rhydd’ – mae hyn yn 2 fedr o led a gall y chwaraewyr fynd i mewn a chwarae ynddi ar ôl i’r bêl gael ei serfio
- Pwynt uchaf y rhwyd yw 2.43m uwchben y ddaear mewn cystadlaethau dynion a 2.24m ar gyfer menywod
- Mae pêl foli’n gamp fywiog iawn ac yn darparu lefel wych o ymarfer corff aerobig oherwydd dy fod yn symud trwy’r amser
- Mae hefyd yn gwella cydsymud rhwng y llygaid a’r dwylo
- Os wyt ti eisiau cymryd rhan mewn pêl foli, mae llawer o glybiau a sefydliadau ar hyd a lled Cymru. Gall y Welsh Volleyball Association dy roi mewn cysylltiad â’r clwb agosaf
A wyddost di…?
- Mae pêl foli yn un o gampau mwyaf poblogaidd y byd
- Mae pêl foli dan do a phêl foli traeth yn gampau Olympaidd
- Mae pêl foli’n arbennig o boblogaidd mewn gwledydd Ewropeaidd, yr Unol Daleithiau, Canada, Tsieina a rhannau eraill o Asia, Brasil a Rwsia
- Ar wahân i bêl foli sy’n cael ei chwarae ar gyrtiau caled, ceir hefyd bêl foli traeth, pêl foli tywod dan do, pêl foli eisteddog, pêl–foli pobl ddall a phêl foli naw bob ochr fel yr amlinellir gan y FIVB (Fèdèration Internationale de Volleyball)