Cwestiynau Cyffredin
- Awgrymiadau ynghylch diogelwch ar-lein
- Eich diogelwch wrth ddefnyddio CLIC
- Rhwydweithio cymdeithasol CLIC
Awgrymiadau ynghylch diogelwch ar-lein
Dyma rai awgrymiadau a dolennau defnyddiol ich helpu i aros yn ddiogel ar-lein:
- Peidiwch fyth chyflwyno eich gwybodaeth bersonol ar-lein
- Peidiwch gwneud cysylltiadau ar-lein ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook a Bebo os nad ydych yn sicr pwy ywr unigolyn
- Maen well cadw ffrindiau ar-lein, ar-lein, gall cyfarfod dieithriaid fod yn beryglus iawn.
- Efallai nad yw pobl yr hyn y maen nhwn dweud y maen nhw
- Byddwch yn ofalus wrth agor ffeiliau oddi wrth bobl nad ydych yn eu hadnabod. Gallent gynnwys firws neu gynnwys anaddas
- Byddwch yn ofalus am beth rydych yn ei ysgrifennu ar broffiliau eich ffrindiau i bawb eu gweld. Maen well anfon neges breifat atynt yn dweud wrthynt ble rydych yn mynd neu bethau personol eraill
- Mae gan y rhan fwyaf o wefannau rhwydweithio cymdeithasol fotymau ar gyfer preifatrwydd y gallwch eu newid i ofalu mai dim ond eich ffrindiau all weld eich proffil
Eich diogelwch wrth ddefnyddio CLIC
Avatar/Userpic
WWrth lwytho userpic i CLIC, cofiwch y gellir ei weld gan bawb syn mynd ir safle. Argymhellwn ddefnyddio ffotograff syn eich cynrychioli chi yn hytrach na ffoto gwirioneddol. Mae rhai safleoedd hwyl ar-lein a all eich helpu i greur rhain; ewch i faceyourmanga.com neu weeworld.com. Cofiwch y gallai unrhyw ffotograffau neu fideos yr ydych yn eu postio yn gyhoeddus ar-lein gael eu cymryd, eu newid au rhannu heb eich caniatd.
Enwr defnyddiwr
Eich enw defnyddiwr ywr enw a ddewiswch ar gyfer eich cyfrif ac fei gwelir drwyr safle pan fyddwch yn postio newyddion, digwyddiadau a sylwadau. Os byddain well gennych aros yn ddienw, rydym yn argymell dewis enw defnyddiwr nad ywn deillio och enw chi, neu rywbeth a fyddain peri i bobl eraill eich adnabod. Maen well gan lawer o bobl ddefnyddio enw arall neu lysenw wrth borir we. Yn awr gyda safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel Beo a Facebook mor boblogaidd, maen dod yn haws dod o hyd i bobl ar-lein. Efallai y byddain well gennych gadwr rhan hon och defnydd or rhyngrwyd ar wahn.
Ar y llaw arall os hoffech i bobl eich adnabod, (er enghraifft, i godi proffil eich gwaith, neu i gael clod am ysgrifennu erthygl wych), gall eich enw defnyddiwr adlewyrchu hyn. Gallwch hefyd ychwanegu dolennau ich tudalennau proffil a gwefannau eraill yn eich proffil.
Cyfrinair
Peidiwch fyth rhoi eich cyfrinair CLIC (neu unrhyw un arall ar gyfer eich cyfrifon ar-lein) i unrhyw un, nai bostio i unrhyw le. Argymhellir eich bod yn dewis cyfrinair cryf, mae hyn yn golygu cyfrinair syn cynnwys rhifau a symbolau yn ogystal llythrennau, iw wneud yn fwy anodd ei agor. Mae Microsoft yn cynnig profwr i brofi cryfder cyfrineiriau. Bydd /www.microsoft.com/protect/yourself/password/checker.mspx yn dweud wrthych ba mor ddiogel yw eich cyfrinair. Os ydych yn pryderu y gall rhywun fod ch cyfrinair chi, neu fod gweithgaredd twyllodrus yn digwydd gan ddefnyddio eich cyfrif gallwch ail-osod eich cyfrinair or tu mewn ir ardal logio i mewn, a rhybuddio aelod staff.
Proffil
Fel defnyddiwr cofrestredig o CLIC gallwch greu proffil defnyddiwr. Gellir gweld proffiliau gan ddefnyddwyr cofrestredig eraill yn unig sydd wedi logio i mewn, ac mae gennych y dewis iw analluogi rhag cael ei weld o gwbl.
Mae eich proffil yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
- Eich enw defnyddiwr
- Os ydych yn aelod or Grwp Golygyddol
- Eich oed, ac o ba sir y deuwch
- Pryd y gwnaethoch ymuno
- Amdanoch Chi Ardal i chi roi testun amdanoch chi eich hun
- Dolennau eraill dolennau ich gwefannau personol/proffiliau rhwydweithio cymdeithasol
- Newyddion a gafodd eu postio yn ddiweddar dolennau i erthyglau yr ydych wedi eu postio yn ddiweddar, os o gwbl
Maer cyfan uchod yn ddewisol. Gallwch lenwi cymaint neu gyn lleied ag a ddymunwch. Mae dewis hefyd i wneud eich proffil yn un preifat. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw un yn gallu gweld gwybodaeth amdanoch chi na darllen am eich gweithgareddau diweddaraf ar-lein.
Dywedwch wrthym ni
Byddwch yn sylwi ar fotwm Dywedwch wrthym ni ar bob tudalen or safle. Mae hwn yn tynnu sylw at yr eitem sydd iw hadolygu gan dm gwe CLIC. Os cawsoch eich tramgwyddo neu os ydych yn bryderus am rywbeth ar CLIC, cofiwch ddweud amdano wrthym. Er bod gennym staff yn monitror wefan yn aml yn ystod y dydd a bod gennym broses safoni llym yn bodoli, rydym yn dal yn meddwl ei bod yn bwysig i ddefnyddwyr allu ein rhybuddion rhwydd am unrhyw beth amhriodol. Os ydych yn dal yn bryderus neu os ywn fater brys, gallwch gysylltu thm gwe CLIC ar 029 20 302471.
Dolennau Allanol
Mae dolen allanol yn ddolen o CLIC i dudalen gwe arall y tu allan i rwydwaith CLIC. Ni all CLIC fod yn gyfrifol am gynnwys dolennau allanol. Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod cynnwys dolennau allanol sydd wedi ei bostio yn addas ac yn ddiogel, nid yw tudalennau gwe allanol yn cael eu rheoli gennym ni ac felly gallair cynnwys newid. Os dewch o hyd i ddolen allanol o fewn CLIC sydd ddim yn gweithio neu sydd chynnwys anaddas dywedwch wrth y staff naill ai gan ddefnyddior botwm Dywedwch wrthym ni neu gysylltu thm gwe CLIC yn uniongyrchol ar 029 20 302471 neu ddefnyddior tocyn cymorth
Rhwydweithio cymdeithasol CLIC
Mae CLIC wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth i chi yn y fformatau ar mannau a ddymunwch. Drwy ein hymgynghoriadau an holiaduron, daeth yn eglur fod y rhan fwyaf ohonoch yn ddefnyddwyr gwefannau rhwydweithio cymdeithasol. Oherwydd hyn, mae gan CLIC bresenoldeb ar y rhan fwyaf o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol poblogaidd, syn cael eu cynnal gan ein tm gwe ac aelodaur Grwp Golygyddol. Mae CLIC hefyd yn cynnig cymorth i safleoedd CLIC lleol syn dymuno creu proffiliau ar y safleoedd rhwydweithio cymdeithasol hyn. Ond nid ywr rhain yn cael eu cynnal gan dm CLIC, felly os oes gennych unrhyw ymholiadau yn eu cylch cysylltwch ch golygydd lleol. Er gwaethar sylwadau gwael a wnaed amdanynt, mae gan safleoedd rhwydweithio cymdeithasol ddigon o fanteision unigryw o hyd (heblaw am fod yn rhoi cyfle i chi ddweud wrth y byd beth a gawsoch i frecwast). Maer rhain yn cynnwys rhoi technoleg, a sgiliau creadigol a chyfathrebu i ni yn ogystal n hannog i fod yn agored i syniadau newydd neu amrywiol.
YouTube
Mae sianel YouTube CLIC yn dangos yr holl fideos yr ydym wedi eu creu a rhai rydych chi wedi eu creu (rydym yn rhoi eich fideos ar YouTube os ydych wedi rhoi caniatd i ni yn unig). Rydym hefyd yn defnyddio YouTube i greu rhestrau o fideos y credwch y gallech fod diddordeb ynddynt. Gwneir y dasg hon hefyd gan aelodau or Grwp Golygyddol o bryd iw gilydd. Cyn yr ychwanegir unrhyw fideo at ein sianel neu cyn iddo gael ei gysylltu CLIC mewn unrhyw fodd, fei gwylir yn llawn ac archwilir y fideo i sicrhau nad oes cynnwys anaddas ynddo. Yn anffodus ni all CLIC fod yn gyfrifol am y fideos hyn pe baent yn cael eu hail-olygu ar l inni eu harchwilio i ddechrau. Ond rydym yn gofalu ein bod yn ychwanegu fideos o ffynonellau dibynadwy yn unig ac rydym bob amser yn anelu at gadw llygad manwl ar y newidiadau a wneir. Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw gynnwys arall ar YouTube, fel fideos cysylltiedig felly rydym yn gofyn i chi fod yn ymwybodol o hyn, a chydymffurfio ag amodau a thelerau YouTube.
Facebook/Bebo/Myspace
Gallwch ryngweithio gydan proffiliau ar y safleoedd canlynol drwy ddod yn ffrind i mi neu ymuno n grwpiau. Nid yw CLIC yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gynnwys a gyhoeddir ar y gwefannau hyn na chafodd ei greu yn uniongyrchol gennym ni.