Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Athletau



Athletau

Mae athletau yn cynnwys campau trac a maes:

  • Rhedeg: pellter hir, sbrintio, traws gwlad
  • Taflu: taflu maen (shot put), y waywffon, y morthwyl a'r ddisgen>
  • Neidio: naid bolyn, naid uchel, naid hir, naid driphlyg

Ceir cyfuniad o gampau hefyd:

  • Triathlon
    • Pellter sbrint: nofio 750m, beicio 20 cilomedr, rhedeg 5 cilomedr
    • Pellter Olympaidd: nofio 1,500m, beicio 40 cilomedr, rhedeg 10 cilomedr
    • Ironman: nofio 3,800m, beicio 180 cilomedr, rhedeg 42 cilomedr
  • Decathlon – sbrint 10m, naid hir, taflu maen, naid uchel, rhedeg 400m, clwydi 110m, y ddisgen, naid bolyn, y waywffon, 1500m
  • Heptathlon – clwydi 100m, naid uchel, taflu maen, 200m, naid hir, waywffon, 800m

Mae clybiau athletau yn amrywio o ran maint ac maen nhw'n cynnig offer ar gyfer pob un o'r campau athletaidd.

Nid oes cyfyngiad oedran i wneud athletau. Mae rhai clybiau'n cynnig hyfforddiant a chystadlaethau i blant iau, gyda chategorïau oed gwahanol.

Os nad wyt ti'n sicr pa gamp sydd orau i ti, gall hyfforddwr roi cymorth i ti benderfynu beth rwyt ti'n ei wneud yn dda.

Rhedeg

Gall redeg neu loncian heb ymuno â chlwb, ond sicrha dy fod di'n cadw'n ddiogel os wyt ti'n rhedeg ar ben dy hun yn yr awyr agored.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50