Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Saethyddiaeth



Saethyddiaeth

Does dim cyfyngiadau ar gymryd rhan mewn saethyddiaeth, ond dylai bob amser ymarfer y gamp dan arolygiaeth broffesiynol oherwydd gallai anafu rhywun yn ddifrifol os wyt ti'n ei wneud yn ddiofal.

Mae saethyddiaeth yn gamp drachywiredd, lle byddi di'n defnyddio bwa i saethu saethau. Mae gwahanol fathau o saethyddiaeth, yn cynnwys ’saethyddiaeth maes’ a ’saethyddiaeth hediad’:

  • Mae saethyddiaeth maes yn golygu mynd o gwmpas cwrs a saethu nifer o dargedau
  • Mae saethyddiaeth hediad yn golygu saethu mor bell â phosibl

Os wyt ti eisiau dysgu saethyddiaeth mae llawer o glybiau lleol yn rhedeg gwersi cychwynnol. Ar ôl cwblhau’r rhain, fe allet ddod yn aelod o glwb saethyddiaeth. Bydd offer yn cael ei ddarparu os wyt ti'n ymuno â chlwb. Gall ddechrau ymarfer saethyddiaeth yn unrhyw oedran – ceir cystadlaethau ar wahân ar gyfer plant a phobl ifanc.

A wyddost ti…?

  • Mae saethyddiaeth yn gamp Olympaidd
  • Mae saethyddiaeth yn un o’r campau prin, lle y gall pobl abl a phobl anabl gystadlu’n gyfartal
  • Mae saethyddiaeth yn arfer hynafol a ddefnyddid ar gyfer hela ac ymladd yn wreiddiol

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50