Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Lacrs



Lacrós

  • Mae lacrós yn gêm tîm lle mae chwaraewyr yn pasio’r bêl i’w gilydd gan ddefnyddio ffon gyda rhwyd ar ei ben
  • Rwyt ti'n sgorio gôl pan fydd y bêl yn cael ei saethu i mewn i rwyd y tîm arall
  • Mae lacrós yn gamp ddi–gyffyrddiad, ond gall chwaraewr daclo gwrthwynebwr trwy dapio ffon y gwrthwynebwr mewn ffordd reoledig gyda’i ffon nhw i ryddhau’r bêl
  • Mae 12 o chwaraewyr mewn tîm a 16 o chwaraewyr mewn sgwad. Mae chwaraewyr yn cyfnewid lleoedd ar y maes yn ystod y gêm, i alluogi'r gêm gael ei chwarae'n gyflym iawn
  • Mae lacrós yn gêm gorfforol, athletaidd a medrus iawn sy’n cael ei chwarae gan ddynion a menywod ac mae timau ar wahân ar gyfer y ddau ryw
  • Mae rheolau’n wahanol ar gyfer dynion a menywod. Mae lacrós dynion yn fwy corfforol, ac felly mae chwaraewyr yn gwisgo offer amddiffynnol, yn cynnwys helmet, menig a phadin o amgylch eu breichiau
  • Mae lacrós menywod yn ddi–gyffyrddiad, felly dyw’r chwaraewyr ddim yn gwisgo offer amddiffynnol
  • Mae mini–lacrós yn fersiwn o’r gêm ar gyfer dechreuwyr. Mae’n gamp ddi–gyffyrddiad ac ni all y chwaraewyr daro ffyn ei gilydd
  • Mae lacrós bocs/ lacrós dan do yn cael ei chwarae gyda chwe chwaraewr ar bob tîm. Mae’r rheolau’n debyg i hoci
  • Mae lacrós yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar hyd a lled y byd. Mae tîm cenedlaethol gan Awstralia, Gweriniaeth Tsiec, Lloegr, Ffrainc, yr Almaen, Iwerddon, Cenedl yr Iroquois, yr Eidal, Siapan, Seland Newydd, yr Alban, De Korea, Sweden a Chymru

Lacrós POP

  • Mae rhai ysgolion yng Nghymru’n chwarae lacrós POP. Mae’r fersiwn hwn yn ddi–gyffyrddiad ac mae ffyn â phen plastig yn cael eu defnyddio yn hytrach na rhai pren
  • Mae rhai ysgolion yn cymryd rhan yn rhaglen ddatblygu lacrós pop y Welsh Lacrosse Association a thwrnamaint blynyddol y Welsh Pop Lacrosse Championships

Lacrós yn y brifysgol

  • Mae lacrós yn gamp prifysgol boblogaidd, felly os nad wyt ti wedi cael cyfle i chwarae yn yr ysgol, fe allet ymuno â thîm yn y brifysgol

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50