Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » PlDroed Americanaidd
Yn yr Adran Hon
- Aerobeg
- Hoci Aer
- Chwaraeon Awyr
- PlDroed Americanaidd
- Saethyddiaeth
- Athletau
- Badminton
- Pl-Fas
- Pl Fasged
- Bowls
- Bocsio
- Dringo
- Criced
- Beicio
- Dartiau
- Deifio a Snorcelu
- Ffensio
- Pysgota
- Pl-Droed
- Golff
- Gymnasteg a Thrampolinio
- Hoci
- Marchogaeth
- Hoci I
- Chwaraeon I
- Lacrs
- Crefft Ymladd
- Chwaraeon Modur
- Pl-Rwyd
- Gweithgareddau Awyr Agored
- Parkour/Rhyddredeg
- Chwaraeon Rolio
- Rhwyfo
- Rygbi
- Hwylio
- Saethu
- Sgrialu
- Sgo ac Eirafyrddio
- Snwcer A Pŵl
- Sboncen
- Syrffio
- Nofio ac Achub Bywyd
- Tenis Bwrdd
- Tenis
- Pl Foli
- Sgo Dŵr
- Yoga
Pêl–droed Americanaidd
Mae pêl–droed Americanaidd yn gamp tîm cystadleuol. Nod y gamp yw symud y bêl tuag at fan pen (’end zone’) y tîm arall er mwyn sgorio pwyntiau.
Gellir symud y bêl yn ei blaen gan ei chario, ei thaflu neu ei rhoi o’r naill aelod o’r tîm i’r llall. Rwyt ti'n sgorio pwyntiau mewn nifer o ffyrdd gwahanol – er enghraifft, trwy gario’r bêl dros y llinell gôl, taflu’r bêl i chwaraewr arall sy’n sefyll dros y llinell gôl neu gicio’r bêl trwy'r pyst gôl. Y tîm buddugol yw’r un â’r nifer mwyaf o bwyntiau ar ddiwedd y gêm.
Cafodd pêl–droed Americanaidd ei dyfeisio yn yr Unol Daleithiau, ac mae’n gamp hynod boblogaidd yno. Dyw pêl–droed Americanaidd ddim yn cael ei chwarae’n eang yn y DU, ond mae’n gamp sydd ar dwf mewn prifysgolion a phlant iau.
Ar hyn o bryd, mae chwe thîm pêl–droed Americanaidd yng Nghymru:
Mae dau dîm Youth Flag:
- The South Wales Rebellion
- The Newport City Saints
Mae hyn yn golygu eu bod yn chwarae pêl–droed Americanaidd di–gyffyrddiad, ac maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i bobl 12–17 oed gymryd rhan.
Mae dau dîm o brifysgolion yng Nghymru:
- The Cardiff Cobras
- Y Tarannau Aberystwyth
Bob blwyddyn, mae’r ddau dîm hyn yn chwarae yn erbyn ei gilydd i ennill y Welsh Bowl.
Mae dau dîm ’Senior Kitted’:
- The Chester Romans
- The South Wales Warriors
Os wyt ti eisiau chwarae pêl–droed Americanaidd neu eisiau gwylio neu gefnogi gêm gweler y manylion cysylltu isod.
A wyddost ti…?
Pêl–droed Americanaidd yw’r gamp fwyaf poblogaidd yr Unol Daleithiau o ran nifer y gwylwyr.
Mae gêm pencampwriaeth pêl–droed Americanaidd, sef y Super Bowl, yn cael ei gwylio gan bron i hanner poblogaeth yr Unol Daleithiau.