Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon a Chadw'n Heini » Tenis
Yn yr Adran Hon
- Aerobeg
- Hoci Aer
- Chwaraeon Awyr
- PlDroed Americanaidd
- Saethyddiaeth
- Athletau
- Badminton
- Pl-Fas
- Pl Fasged
- Bowls
- Bocsio
- Dringo
- Criced
- Beicio
- Dartiau
- Deifio a Snorcelu
- Ffensio
- Pysgota
- Pl-Droed
- Golff
- Gymnasteg a Thrampolinio
- Hoci
- Marchogaeth
- Hoci I
- Chwaraeon I
- Lacrs
- Crefft Ymladd
- Chwaraeon Modur
- Pl-Rwyd
- Gweithgareddau Awyr Agored
- Parkour/Rhyddredeg
- Chwaraeon Rolio
- Rhwyfo
- Rygbi
- Hwylio
- Saethu
- Sgrialu
- Sgo ac Eirafyrddio
- Snwcer A Pŵl
- Sboncen
- Syrffio
- Nofio ac Achub Bywyd
- Tenis Bwrdd
- Tenis
- Pl Foli
- Sgo Dŵr
- Yoga
Tenis
- Mae tenis yn gamp sy’n cael ei chwarae gyda dau chwaraewr neu ddau bâr o chwaraewyr sy’n defnyddio racedi i daro pêl yn ôl ac ymlaen dros rwyd
- Mae’r rhwyd yn ymestyn ar led y cwrt, sy’n ei wahanu’n ddwy ochr gyfartal
- Mae tenis yn cael ei chwarae ar wyneb fflat siâp petryal sy’n laswellt, clai neu’n goncrid fel arfer
- Ar ddechrau gêm o denis, mae chwaraewyr yn sefyll ar ochrau gwahanol o’r cwrt
- Mae un chwaraewr yn dechrau trwy serfio’r bêl. Y nod yw bwrw’r bêl dros y rhwyd fel ei bod yn bownsio ar ochr arall y cwrt
Sgorio
- Mae’r chwaraewr sy’n serfio’r bêl yn sgorio pwyntiau os nad yw’r chwaraewr arall yn cyrraedd y bêl cyn iddi fownsio am yr ail dro neu’n methu bwrw’r bêl yn ôl yn gywir
- Mae gemau yn cynnwys pwyntiau, gemau a setiau
- Rwyt yn sgorio pwyntiau i ennill gêm
- Mae set yn gyfres o gemau. Rwyt ti'n ennill set ar ôl i chwaraewr ennill chwe gêm a rhaid ei fod wedi ennill dwy gêm mwy na’r chwaraewr arall
- Ym myd tenis dynion, mae’r gêm yn cynnwys pum set – rhaid ennill tri allan o bump. Ar ôl i chwaraewr ennill tri set, mae wedi ennill y gêm oherwydd na all y chwaraewr arall ei guro
- Ym myd tenis menywod, mae’r gemau yn cynnwys tri set – ar ôl i chwaraewr ennill dau set, mae hi wedi ennill y gêm
Parau
- Mae tenis parau hefyd, lle y ceir dau chwaraewr ar y ddwy ochr
- Mae’r cwrt ychydig yn fwy ar gyfer gemau parau
Twrnameintiau tenis
- Mae miliynau o bobl yn dilyn tenis, yn enwedig y pedwar twrnamaint Grand Slam, sef Wimbledon, yr US Open, yr Australian Open a’r French Open
- Wimbledon yw twrnamaint tenis mwyaf y byd. Caiff ei gynnal yn Llundain bob blwyddyn am bythefnos yn yr haf Wimbledon yw’r unig dwrnamaint Grand Slam lle mae chwaraewyr yn chwarae ar borfa
- Mae chwaraewyr o fwy na 60 o wledydd yn cystadlu bob blwyddyn
- Mae twrnameintiau gwahanol yn cael eu cynnal ar yr un pryd ar gyfer senglau dynion, senglau menywod, parau dynion, parau menywod a pharau cymysg
- Mae Wimbledon yn cael ei ddarlledu a cheir cyhoeddusrwydd amdano yn y wasg, ar y radio, ar y rhyngrwyd ac ar y teledu, ac mae miliynau o bobl ar hyd a lled y byd yn ei ddilyn
- Mae Prydain Fawr yn cystadlu fel un genedl unedig ym Mhencampwriaethau Wimbledon
Cymryd rhan
- Os wyt ti eisiau dysgu chwarae tenis, mae cyrtiau tenis mewn llawer o ysgolion a chanolfannau chwarae i ti gael ymarfer arnyn nhw
- Mae clybiau tenis ledled Cymru lle gall ddysgu sut i chwarae tenis mewn grŵp neu ddod o hyd i hyfforddwr preifat
A wyddost di…?
- Mae tenis yn gamp Olympaidd
- Mae’r math o wyneb y mae tenis yn cael ei chwarae arno yn pennu cyflymder a sbonc y bêl – mae chwaraewyr gwahanol yn chwarae’n well ar wahanol wynebau
- Dyw rheolau tenis ddim wedi newid llawer ers y 1920au, sy’n wahanol i lawer o gampau eraill
- Heddiw, mae gêm y menywod yn fwy poblogaidd na gêm y dynion, ac mae mwy na hanner miliwn o ymwelwyr yn dod i Wimbledon bob blwyddyn