Cwestiynau Cyffredin
- Cofrestru
- Cyflwyno Newyddion
- Y Broses Safoni
- Proffiliau Defnyddwyr
- Grwpiau Golygyddol Pobl Ifanc
- Sefydliadau
- Cyfryngau Eraill
- Amrywiol
Cofrestru
Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair. Help!
Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, cliciwch ‘logio i mewn’ ar y frig y dudalen a byddwch yn mynd i’r ardal logio i mewn. Yma byddwch yn gallu dod o hyd i’ch cyfrinair.
Beth fyddwch chi’n ei wneud gyda data sy’n perthyn i mi?
Ni fydd CLICarlein fyth yn trosglwyddo eich manylion i drydydd parti, nac yn cysylltu â chi heb eich caniatâd. Cedwir eich gwybodaeth yn ddiogel oherwydd bod preifatrwydd yn bwysig i ni.
Beth fyddaf yn ei dderbyn os arwyddaf i ymuno â’ch rhestr bostio?
O bryd i’w gilydd efallai y bydd CLICarlein yn cysylltu â chi gyda newyddion a diweddariadau am y prosiect. Rydym hefyd yn anfon deunydd allan yn rheolaidd o’ch ardal leol. Gallwch dynnu eich enw o’r rhestr tanysgrifio ar gyfer y rhain unrhyw bryd, naill ai o’r tu mewn i CLICarlein neu drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod yr e-bost. Gallwch hefyd newid eich hoffterau o’r tu mewn i “CLICarlein i Mi”.
Pam ydych chi’n gofyn yr holl gwestiynau hyn i mi?
Rydym yn awyddus i ddysgu mwy amdanoch chi, defnyddwyr CLICarlein, i sicrhau bod CLICarlein mor dda ag y dymunwch iddo fod a’n bod yn gwneud newidiadau i weddu i’ch anghenion. Mae arnom angen yr wybodaeth hefyd i wybod faint o bobl ifanc sy’n defnyddio CLICarlein ac oherwydd hyn weithiau gallwn ofyn i chi gwblhau arolwg cyflym i gasglu eich adborth a’ch barn. Peidiwch â phoeni, ni fyddwn fyth yn rhannu eich manylion, ac efallai y bydd cyfle i chi ennill gwobrau da!
Rydw i’n byw mewn un sir, ond hoffwn dderbyn gwybodaeth am siroedd eraill.
Rydym yn deall efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn newyddion a diweddariadau o siroedd eraill. Os hoffech gael eich diweddaru am beth sy’n mynd ymlaen mewn ardal arall, logiwch i “CLICarlein i Mi” a gallwch reoli eich hoffterau. Gallwch hefyd logio i mewn i safleoedd CLICarlein lleol eraill gan ddefnyddio’r un enw defnyddiwr a chyfrinair.
Cyflwyno Newyddion
Alla’ i gyflwyno cynnwys i CLICarlein yn y Gymraeg?
Gallwch. Mae’r safle yn gwbl ddwyieithog. Efallai y gall y broses safoni gymryd ychydig yn hwy oherwydd bydd angen i ni drefnu cyfieithiad.
Alla’ i ddefnyddio unrhyw ffotograffau neu fideos yn fy eitem newyddion?
Gwaherddir defnyddio cynnwys wedi ei warchod gan hawlfraint ar safle CLICarlein neu safleoedd rhanbarthol yn gyfan gwbl. Os ydych yn ansicr am ddelwedd neu fideo arbennig, cofiwch gysylltu â’ch golygydd lleol neu â thîm gwe CLICarlein a all roi cyngor i chi. Dylid cyhoeddi ffotograffau neu fideos dim ond os ydynt a) wedi eu creu gennych chi, b) yn rhai y rhoddwyd caniatâd i chi gan yr awdur i’w ddefnyddio i’r pwrpas hwn, neu c) mae’r ffoto neu’r fideo yn cael eu rhyddhau o dan drwydded greadigol gyffredin neu maent yn rhai nad oes breindal ynghlwm wrthynt. Ystyriwch ychwanegu diolch am y ffoto (enw’r sawl a’i cymerodd) a chysylltwch ef ag unrhyw ffotograff yr ydych yn ei ddefnyddio nad yw’n un o’ch rhai chi.
Mae gennyf farn gref am rywbeth, alla’ i ei rhannu ar CLICarlein?
Wrth gwrs. CLICarlein yw eich llwyfan chi i rannu a thrafod beth bynnag sy’n bwysig i chi. Rydym yn croesawu pob barn a safbwynt, ond rydym yn gofyn i chi leisio’r rhain mewn modd sy’n ystyriol i ddefnyddwyr eraill y safle. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth drafod materion y mae pobl yn teimlo’n angerddol yn eu cylch. Gall golygydd eich cynghori i aralleirio rhywfaint o’ch stori, os gellid ystyried fod hyn yn dramgwyddus i bobl eraill.
Y Broses Safoni
Rydw i wedi cyflwyno eitem newyddion. Yn awr beth?
Wedi i’ch stori gael ei chyflwyno mae’n ymuno â rhestr i’w safoni. Dyma’r broses lle mae golygydd lleol neu aelod o’r Grŵp Golygyddol yn darllen drwy eich stori ac yn gwirio unrhyw ddolennau, ffotograffau a fideos i fynd gyda hi i sicrhau ei bod yn addas i’w chyhoeddi. Gallant hefyd wirio am unrhyw wallau gramadegol a gwallau sillafu. Cyn gynted ag y maent yn hapus fod eich stori yn bodloni’r gofynion, bydd yn ymuno â’r rhestr o storïau i gael eu gosod yn fyw (y broses o ganiatáu iddi fod yn weladwy ar y wefan).
Bydd yr eitem yn ymddangos ar y wefan ranbarthol y gwnaethoch ei chyflwyno iddi. Ond yn ystod y broses safoni, gall y Golygydd Cenedlaethol neu aelod o’r tîm golygyddol nodi eich eitem fel un i’w phostio yn genedlaethol. Mewn geiriau eraill, os yw eich eitem yn ymwneud ag ardal arall o Gymru gellir ei dewis i ymddangos ar y safle hwnnw yn ogystal. Yn ystod y broses hon bydd eich stori yn cael ei dosbarthu hefyd o dan un neu nifer o’r penawdau gwybodaeth - e.e. iechyd, addysg - sy’n golygu y gall ymddangos fel ‘eitem newyddion gysylltiedig’ pan fo pobl yn mynd drwy dudalennau gwybodaeth am y pwnc hwnnw.
Pa fath o eitem fyddai’n cael ei dewis ar gyfer y safle cenedlaethol?
Bydd y Golygydd Cenedlaethol yn cynnwys rhai storïau ar safle cenedlaethol CLICarlein. Gall stori gael ei dewis ar gyfer y safle cenedlaethol os yw golygydd yn teimlo ei bod yn arbennig o dda. Gellid seilio hyn ar y pwnc neu’r cynnwys. Bydd unrhyw newyddion sy’n gysylltiedig â CLICarlein yn ymddangos ar y safle cenedlaethol. Ni allwch gyflwyno eich gwaith eich hun i fod yn genedlaethol; mae’n rhaid iddo gael ei ddewis gan olygydd.
Gwrthodwyd fy eitem newyddion. Pam?
Mae nifer o resymau pam y gallai eitem newyddion fethu’r broses safoni, fel pe bai eich eitem yn cynnwys gormod o regi neu gynnwys tramgwyddus, bod ynddi unrhyw ddelweddau neu fideo gyda hawlfraint, neu pe tybid bod y cynnwys yn anaddas ar gyfer CLICarlein. Os yw’r broblem yn ymwneud â delwedd fideo gyda hawlfraint, gall y golygydd ddewis gosod eich stori yn fyw heb y ddelwedd/fideo arbennig honno. Bydd y golygydd hefyd yn gwneud mân newidiadau i unrhyw iaith sy’n anaddas. Os ystyrir bod yr eitem yr ydych wedi ei phostio yn dramgwyddus, gellir cymryd camau pellach, a all arwain at rewi eich cyfrif. Gall y golygydd ddewis cysylltu â chi a’ch cynghori am unrhyw newidiadau y dylid eu gwneud er mwyn unioni’r broblem.
Rydw i wedi dod o hyd i rywbeth sy’n peri tramgwydd i mi, beth alla’ i ei wneud?
Ar bob tudalen o CLICarlein, chwiliwch am y botwm bach ‘adroddwch am hwn’. Bydd clicio ar y botwm hwn yn dangos y stori i’w hadolygu gan olygydd. Nid yw’n cuddio’r stori ar unwaith, ond byddwn yn ymateb i unrhyw hysbysiadau o fewn 24 awr. Pe bai’n benwythnos, neu pe teimlwch fod angen sylw brys ar y cynnwys, cysylltwch â thîm CLICarlein ar info@youngwrexham.co.uk
Mae fy Nigwyddiad i wedi cael i’w wrthod. Pam?
Caiff digwyddiadau eu safoni yn yr un modd ag eitemau newyddion pan gyflwynir nhw i CLICarlein neu’r safleoedd rhanbarthol. Bydd y canolwr neu’r golygydd lleol hefyd yn gwirio i weld bod eich digwyddiad yn addas i gael ei hyrwyddo ar CLICarlein. Bydd y broses hon yn cynnwys gwirio i weld a yw’r lleoliad yn un gwirioneddol ac y bydd y math o ddigwyddiad yn addas ar gyfer yr oed a nodir. Er enghraifft, os ydych wedi cyflwyno eich parti pen-blwydd fel digwyddiad ar CLICarlein byddai’n cael ei wrthod. Yn yr un modd bydd unrhyw ddigwyddiadau nad ydynt yn cael eu cynnal mewn lle cyhoeddus, e.e. parti yn nhy Paul, neu rywle yr ydym yn gwybod sy’n anniogel, neu yr amheuir ei fod felly, yn cael ei wrthod. Gall ein golygyddion lleol gysylltu â chi drwy ebost os dymunant ofyn mwy o gwestiynau am eich digwyddiad.
Proffiliau Defnyddwyr
Pa wybodaeth y gallaf ei hychwanegu at fy mhroffil?
Gallwch ychwanegu llun y defnyddiwr, bywgraffiad byr amdanoch chi eich hun a rhai dolennau i broffiliau rhwydweithio cymdeithasol. Nid oes raid i chi lenwi unrhyw ran o’r wybodaeth hon, gallwch roi cymaint neu cyn lleied ag y dymunwch. Darllenwch ein gwybodaeth am ddiogelwch ar-lein cyn llenwi eich proffil.
Dydw i ddim am i bobl wybod pwy ydw i.
Gellir analluogi eich proffil o’r tu mewn i ‘CLICarlein i Mi’. Er y bydd eich enw defnyddiwr yn ymddangos wrth yr eitemau rydych wedi eu cyflwyno, pan fydd rhywun yn clicio arno, y cyfan y bydd yn ei ddangos yw tudalen yn nodi bod eich proffil yn breifat. Mae CLICarlein yn llwyfan i chi ddysgu, mynegi eich hun a rhannu eich profiadau mewn amgylchedd diogel. Mewn rhai sefyllfaoedd efallai y byddwch yn teimlo yn fwy cysurus yn cadw eich hunaniaeth yn breifat ac rydym yn parchu hyn. Fyddwn ni fyth yn dweud pwy ydych chi os ydych yn dewis gwarchod eich hunaniaeth. Ewch i weld ein tudalennau diogelwch ar-lein am fwy o gyngor am aros yn ddiogel ar-lein ac am awgrymiadau ar gyfer defnyddio proffiliau CLICarlein.
Grwpiau Golygyddol Pobl Ifanc
Rwy’n sylwi fod gan rai defnyddwyr fegaffon wrth eu henw, beth yw hwn? A sut galla’ i gael un?
Mae’r eicon hwnnw yn cynrychioli’r ffaith fod y defnyddiwr yn aelod o’r Grŵp Golygyddol ar gyfer ei safle lleol neu genedlaethol. Gweler Cwestiynau Cyffredin – Beth mae’r Grŵp Golygyddol yn ei wneud? a Chwestiynau Cyffredin - Sut y gallaf ymuno?
Beth mae’r Grŵp Golygyddol yn ei wneud?
Rhan o brosiect CLICarlein yw helpu i ddatblygu grwpiau golygyddol o bobl ifanc sydd â diddordeb ym mhob sir a all lywio’r wefan a’i chynnwys. Mae’r grwpiau hyn yn cyfarfod yn rheolaidd yn bersonol ac ar-lein i drafod sut mae’r gwefannau yn gweithredu ac yn gweithredu fel gohebyddion, gan ennill sgiliau a phrofiad ar hyd y ffordd.
Grŵp Golygyddol Cenedlaethol
Ffurfiwyd y Grŵp Golygyddol Cenedlaethol wrth i brif safle CLICarlein gael ei ddatblygu. Buont yn cymryd rhan mewn cwrs preswyl a helpu i ail-ysgrifennu’r wybodaeth oedd yn bresennol yn ein mynegai. Ynghyd â grwpiau o siroedd ar draws Gymru, ymgynghorwyd â nhw ynghylch y dyluniad a’r cysyniad. Mae’r grŵp hwn o bobl ifanc yn rhannol gyfrifol am safoni cynnwys a byddant yn helpu i ddatblygu prosiectau ac ymgyrchoedd, a rheoli ein proffiliau rhwydweithio cymdeithasol. Mae gan y bobl ifanc brwdfrydig yn y grŵp hwn sgiliau ardderchog y gallant eu cyfrannu, gan ddarparu eu barn a gweithredu fel cynrychiolwyr i bobl ifanc eraill ynghylch sut y dylid datblygu’r wefan. Mae cyfrannu fel hyn yn caniatáu i bobl ddatblygu eu sgiliau, a dysgu rhai newydd gyda’r cyfle i ennill achrediad a phrofiad gwaith gwerthfawr. Os teimlwch yr hoffech gyfrannu ac yr hoffech gymryd rhan ac ymuno â’r grŵp, edrychwch ar (Dolen am YEGS) a chysylltwch â Golygydd Cenedlaethol CLICarlein, Ryan Heeger drwy ffôn ar 07515 566518 neu drwy ebost ryan@promo-cymru.org
Grwpiau Golygyddol Lleol
Bydd gan bob sir yng Nghymru neu byddant yn y broses o ddatblygu Grŵp Golygyddol. Mae’r rolau'r un fath ag ar gyfer bod yn aelod o Grŵp Golygyddol, ond ar lefel leol gyda chyfarfodydd rheolaidd.
Sut y gallaf ymuno?
Cysylltwch â Golygydd Cenedlaethol CLICarlein, Ryan Heeger, ar y ffôn ar 07515 566518 neu drwy ebost yn ryan@promo-cymru.org
Sefydliadau
Sut y gallaf gyflwyno fy sefydliad?
Ewch i gyflwyno sefydliad a darganfyddwch eich enw cyswllt lleol, cysylltwch â nhw a gofynnwch am ffurflen gofrestru.
Sut y caiff sefydliadau eu safoni?
Mae’r broses safoni ar gyfer sefydliadau ychydig yn wahanol. Fel rhan o’n hymroddiad i ddarparu gwybodaeth gywir a defnyddiol, gofynnir i unrhyw sefydliad sy’n dymuno cyflwyno eu manylion i gael eu rhestru ar gyfarwyddiaduron lleol a/neu genedlaethol CLICarlein i ddarparu rhai asedau cyn cael eu rhestru. Wedi i chi gofrestru gofynnir i chi lawrlwytho ac argraffu ffurflen, a fydd yn rhoi manylion am y camau nesaf a beth sydd arnom ei angen gennych. Yna bydd un o safonwyr y sefydliadau yn cysylltu â chi.
Mae fy manylion wedi newid, sut y gallaf ddiweddaru fy ngwybodaeth ar CLICarlein?
IOs oes angen i chi ein hysbysu am newid manylion cyswllt neu am unrhyw ymholiad arall am restriad eich sefydliad, cysylltwch â thîm gwybodaeth CLICarlein ar info@youngwrexham.co.uk
Cyfryngau Eraill
Beth y gallaf ei gyflwyno i gyd-fynd â’m stori?
Gallwch gyflwyno hyd at bum delwedd (mae jpg., gif, png yn fathau o ffeil a gefnogir) ac un fideo y mae’n rhaid ei llwytho i wefan sy’n derbyn fideos a fydd yn cynhyrchu URL i chi. Y gwefannau derbyn fideo a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin yw YouTube a Vimeo. Rhowch URL eich fideo dewisedig pan ydych yn cyflwyno eich erthygl a bydd yn ymddangos ger eich stori. Nid oes gennym y cyfleuster ar hyn o bryd i lwytho eich ffeiliau MP3 eich hun, ond os hoffech ychwanegu un, gall aelod o dîm gwe CLICarlein wneud hynny i chi. Ebostiwch ni yn webteam@youngwrexham.co.uk. Neu beth am greu fideo gyda’ch MP3 a’i chyflwyno felly?
Mae gennyf fideo rwy’n meddwl y dylech ei ychwanegu at chwaraewr cyfryngau CLICarlein.
Os yw eich fideo yn perthyn i un o’r 10 o brif benawdau gwybodaeth yna gellid rhoi sylw iddo yn chwaraewr cyfryngau CLICarlein, neu ar un o’r tudalennau gwybodaeth. Gallwch ddewis naill ai ei e-bostio atom yn video@youngwrexham.co.uk neu bostio DVD at ProMo Cymru, Uned 13, Gweithdai Royal Stuart , Adelaide Place, Caerdydd CF10 5BR
Ar ba fformat yr hoffech ei gael?
Yn ddelfrydol hoffem gael y fideo mewn quicktime movie (.mov) .avi neu mp4. Peidiwch â phryderu os nad yw eich fideo yn un o’r fformatau hyn ac na allwch ei drosi. Rydym ni yma i helpu.
Amrywiol
Beth yw sianel ‘RSS’?
Mae RSS yn golygu ‘Really Simple Syndication’ ac yn fyr mae’n sianel i gynnwys deinamig o’r wefan. Mae’r sianel hon yn cynnwys delweddau testun a dolennau ac yn cael ei diweddaru yn awtomatig. Gallwch danysgrifio i’r sianeli hyn, sy’n golygu eu bod yn eich hysbysu pan ychwanegir rhywbeth at y safle. Felly, os ydych yn tanysgrifio i’r sianel newyddion RSS ar CLICarlein, fe’ch diweddarir bob yn hyn a hyn gyda’r newyddion diweddaraf a ychwanegwyd. Gallwch edrych ar y sianeli RSS hyn o’ch porwr, darllenydd RSS neu’r rhan fwyaf o ffonau symudol. Y fantais o ddefnyddio sianel RSS yw y gallwch weld cynnwys o bob un o’ch hoff wefannau mewn un lle, neu wrth symud o gwmpas. Mae CLICarlein yn cynnwys nifer o sianeli RSS i ddewis ohonynt a’r dewis o greu un eich hun. Felly er enghraifft gallwch ddewis sianel RSS o unrhyw newyddion wedi ei dagio gyda ‘cherddoriaeth’. Os ydych yn defnyddio porwr gwe modern (Firefox, Safari neu Internet Explorer 7 ac uwch) byddwch yn gallu tanysgrifio i sianel o’r tu mewn i’ch porwr. CLICiwch ar y ddolen i’r sianel RSS a chliciwch ‘tanysgrifiwch yn awr’. Gellir canfod esboniad mwy cynhwysfawr ar RSS yn Wikipedia.
Mae’r fideo YouTube a gyflwynais gyda fy eitem newyddion wedi ei dileu, pam?
O bryd i’w gilydd bydd YouTube yn dileu fideos. Gallai hyn fod am nifer o resymau ac mae hyn yn anffodus allan o’n rheolaeth ni. Er na allwch chi olygu eich stori wedi iddi gael ei chyflwyno, gallwch gysylltu ag aelod staff a all naill ei dileu neu ei hamnewid.
Mae gen i broblem yn edrych ar neu yn cyrchu at nodweddion ar safle CLICarlein.
Pryd bynnag y bo hynny’n bosib, rydym wedi ceisio darparu fformatau eraill ar gyfer cyfryngau yr ydym yn gwybod y gellir eu rhwystro gan rai cyfrifiaduron. Ond os oes gennych unrhyw broblemau wrth edrych ar neu gyrchu at rannau o safle CLICarlein, cysylltwch â thîm gwe CLICarlein yn webteam@youngwrexham.co.uk neu cyflwynwch docyn cefnogi yma a byddwn yn ceisio ei ddatrys cyn gynted â phosib.
Mae gennyf awgrym ar gyfer CLICarlein.
Rydym wrth ein bodd yn cael eich adborth ac yn arbennig eich syniadau, felly e-bostiwch dîm gwe CLICarlein drwy webteam@youngwrexham.co.uk gyda’ch awgrymiadau. Cofiwch fod CLICarlein yn safle sy’n esblygu yn gyson sydd angen eich cyfraniadau chi i’w gwneud hyd yn oed yn well!