Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » M.E.
Yn yr Adran Hon
- Maetheg
- Gordewdra
- Gweithgaredd Corfforol
- Llysieuwyr a Feganiaid
- Anemia
- Diabetes
- Asthma
- Alergeddau
- Clefyd y Gwair
- Ecsema
- Croen a Sbotiau
- Torheulo a Chael Lliw Haul
- Tatŵs a Chelf y Corff
- Atal Dweud
- Heintiau Wrin a Gwlychu
- Arogleuon y Corff
- Tarwden y Traed
- Cur Pen a'r Meigryn
- Cysgu
- Epilepsi
- M.S.
- M.E.
- M.D.
- Llid yr Ymennydd
- Canser
M.E.
Blinder gwanychol yw Enseffalomyelitis Myalgig (M.E.) sy’n effeithio ar y system nerfol a’r system imiwnedd. Mae Syndrom Blinder Cronig (CFS) yn enw arall arno.
Ymhlith y symptomau mwyaf cyffredin mae blinder eithafol, poen yn y cyhyrau, ei chael yn anodd canolbwyntio a phroblemau â’r cof.
Gall M.E. effeithio ar bobl o bob oed, ond mae’n fwy cyffredin ymhlith pobl rhwng 20 a 45 oed ac mewn merched.
Er bod y pethau sy'n achosi'r cyflwr yma'n gymharol anhysbys, gall M.E. ddatblygu ar ôl firws fel y ffliw neu dwymyn y chwarennau (glandular fever).
Credir bod brechiadau neu docsinau yn ein hamgylchoedd hefyd yn gallu sbarduno M.E.
Nid oes unrhyw driniaeth ar gyfer M.E. er y gwelwyd bod cwnsela wedi helpu rhai pobl drwy leddfu straen neu newid ymddygiad.
Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n dioddef o M.E. yn darganfod bod angen iddynt gael cydbwysedd iach rhwng gweithgaredd a gorffwys.
Os oes gen ti unrhyw symptomau M.E. cer i weld y meddyg cyn gynted â phosib. Bydd y meddyg yn cynghori ti ar y ffyrdd gorau o ddelio â’r cyflwr yma a ffyrdd o addasu dy ffordd o fyw i ymdopi ag M.E.