Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Heintiau Wrin a Gwlychu



Heintiau Wrin a Gwlychu

Llid y Bledren (Cystitis)

Haint wrin yw llid y bledren sy’n cael ei achosi pan ddaw’r bledren a’r wrethra ( y tiwb sy’n cario’r wrin o’r bledren allan o’r corff) yn llidus (inflamed). Mae’n anghyfforddus ac mae’n rhoi’r teimlad i ti dy fod di am bi-pi o hyd. Weithiau fe all yr wrin fod yn gymylog ac yn ddrewllyd, neu fe all gynnwys diferyn o waed.

Gall bacteria o’r anws beri llid y bledren. Mae’n bwysig bod merched yn sychu o’r tu blaen i’r tu ôl i osgoi lledaenu’r bacteria tuag at y bledren. Gall rhyw egnïol neu aml hefyd ei achosi.

Nid yw llid y bledren yn ddifrifol ac mae modd ei drin ag:

  • Antibiotigau oddi wrth dy feddyg
  • Triniaethau dros y cownter
  • Yfed sudd llugaeron (cranberry)
  • Yfed mwy o ddŵr

Anymatal (Gwlychu)

Colli rheolaeth ar y bledren yn llwyr neu'n rhannol yw anymatal, gan olygu nad wyt ti'n gallu dal dy bi-pi. Fel arfer, pan fyddi di angen pi-pi bydd y bledren yn anfon neges i’r ymennydd i ddweud ei bod hi’n llawn. Bydd anymatal yn digwydd pan fydd y neges yn methu â chyrraedd yr ymennydd yn iawn.

Mathau o anymatal:

  • Anymatal straen - bydd ychydig iawn o wrin yn gollwng wrth wneud gweithgaredd corfforol. Bydd hyn yn digwydd pan fydd y cyhyrau yng ngwddf y bledren yn rhy wan i ddal y dŵr yn y bledren pan fyddi di'n pesychu, yn chwerthin, yn tisian neu’n gwneud gweithgaredd egnïol
  • Anymatal ysfa - bydd y bledren yn gwacáu yn llwyr

Mae yna nifer o ffyrdd o drin anymatal gan ddibynnu ar y math rwyt ti'n dioddef ohono. Gall yfed llawer o ddŵr a bwyta digonedd o ffrwythau a llysiau helpu. Fe allai peidio â smygu a pheidio ag yfed alcohol neu gaffein hefyd leddfu anymatal. Hefyd, gallet ti roi cynnig ar ymarferion llawr y pelfis er mwyn cryfhau'r cyhyrau.

Fe all fod llawer o ffactorau sy’n gysylltiedig ag anymatal:

  • Straen
  • Ar ôl bod yn feichiog, o ganlyniad i lacio cyhyrau llawr y pelfis
  • Heintiau’r bledren (Cystitis)
  • Strôc
  • Canser ar ran benodol o’r corff
  • Twbercwlosis
  • Sglerosis ymledol (MS)
  • Pledren lidiog
  • Gorddryswch henaint
  • Clefyd Alzheimer

Gwlychu’r gwely

Er mai ymhlith plant y mae gwlychu’r gwely fwyaf cyffredin, mae’n effeithio ar dros un filiwn o bobl yn y DU, gan gynnwys un ym mhob chwech o blant pump oed, un ym mhob 20 o blant deg oed ac un ym mhob cant o oedolion.

Nid oes unrhyw un peth sy’n achosi gwlychu’r gwely, ond mae’n bosib ei fod yn gysylltiedig â straen, anymatal wrinol, alcohol, caffein, tabledi cysgu neu haint wrin.

Ceisia gwtogi ar yr alcohol, y caffein a’r diodydd rwyt ti'n eu hyfed cyn mynd i’r gwely. Efallai dy fod di eisiau rhoi cynnig ar osod dy larwm cwpl o oriau cyn i ti fynd i gysgu i ddeffro ti yn y nos neu gwpl o oriau cyn y byddet ti’n deffro fel arfer, er mwyn defnyddio'r toiled. Ceisia amrywio’r amser rwyt ti’n ei osod fel nad wyt ti’n dod i arfer â gwacáu’r bledren yr un amser bob nos.

Os oes gen ti unrhyw bryderon ynglŷn â heintiau neu broblemau wrin, paid â theimlo cywilydd. Gall dy feddyg gynghori ti ar sut i ddelio â’r broblem.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50