Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Tatŵs a Chelf y Corff



Tatŵs a Chelf y Corff

Tatŵs

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i ti fod yn 18 oed neu'n hŷn i gael tatŵ. Mae’n bosib erlyn tatŵydd os byddi di'n cael tatŵ o dan 18 oed.

Mae tatŵ yn cael ei greu gyda nodwydd ddirgrynol sy’n pigo trwy haen uchaf y croen ac yn chwistrellu inc i mewn. Fe all fod yn brofiad poenus.

Os wyt ti'n meddwl am gael tatŵ, gwna'n siŵr:

  • Bod yr offer wedi’u diheintio. Mae’n rhaid i bob nodwydd fod yn newydd, yn lân ac yn ddi-haint ar gyfer pob tatŵ. Mae hepatitis B a HIV yn risg gyda nodwyddau budr neu nodwyddau sy’n cael eu rhannu
  • Bod y tatŵydd wedi’i gofrestru a bod ei dystysgrif wedi’i harddangos

Fe all tatŵ gostio unrhyw beth o £10 i fyny, gan ddibynnu ar ei faint, ei liw a’i siâp, a pha mor fanwl yw’r ddelwedd.

Mae tatŵs yn barhaol, felly meddylia am y penderfyniad yn ofalus. Er enghraifft, a fyddi di'n dal i hoffi’r tatŵ mewn blynyddoedd i ddod? Hefyd, os yw’n bosibl gweld y tatŵ, meddylia tybed beth fydd cyflogwr yn meddwl ohono yn y dyfodol. Mae triniaeth laser yn gallu cael gwared â thatŵs, ond mae’n broses ddrud ac mae’n bosib y bydd yn gadael craith barhaol ar ei hôl.

Tyllu’r corff

Mae’n rhaid i ti fod yn 18 oed i gael rhan o’r corff wedi’i dyllu neu mae’n rhaid i ti gael caniatâd rhiant os o dan 18 oed.

Mae tyllu yn ffurf arall ar gelf y corff, lle bydd rhan o’r corff yn cael ei dyllu â nodwydd â chafn wag a bydd darn o emwaith yn cael ei wthio trwy’r twll.

Defnyddir gwn wedi’i gynllunio’n arbennig i dyllu’r clustiau. Ymhlith enghreifftiau eraill o dyllu’r corff mae tyllu’r botwm bol, y trwyn, yr aeliau, y deth, yr organau cenhedlu a’r tafod.Sicrha fod y tyllwr wedi’i gofrestru â sefydliad proffesiynol, fel Cymdeithas y Tyllwyr Proffesiynol.

Ar ôl y tyllu, sicrha dy fod di’n cadw’r rhan honno o’r corff yn lân i leihau’r risg o haint. Bydd y tyllwr yn dweud wrthyt ti’r ffyrdd gorau o ofalu am y twll wedyn. Fe all gymryd hyd at chwe mis i dyllau wella'n iawn.

Ymhlith dulliau eraill o gelf y corff mae:

  • Tatŵs ffug
  • Tatŵs henna
  • Stensilau
  • Tatŵs wedi’u paentio
  • Gemwaith ffug i’r corff
  • Bindis

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50