Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Canser
Yn yr Adran Hon
- Maetheg
- Gordewdra
- Gweithgaredd Corfforol
- Llysieuwyr a Feganiaid
- Anemia
- Diabetes
- Asthma
- Alergeddau
- Clefyd y Gwair
- Ecsema
- Croen a Sbotiau
- Torheulo a Chael Lliw Haul
- Tatŵs a Chelf y Corff
- Atal Dweud
- Heintiau Wrin a Gwlychu
- Arogleuon y Corff
- Tarwden y Traed
- Cur Pen a'r Meigryn
- Cysgu
- Epilepsi
- M.S.
- M.E.
- M.D.
- Llid yr Ymennydd
- Canser
Canser
Mae mwy na 200 math o ganser, ond mae pob math yn dechrau yn yr un ffordd – celloedd annormal.
Mae celloedd y corff yn rhannu'n rheolaidd yn naturiol, ond pan fo signalau rheoli'r celloedd yn mynd o'i le, gall y celloedd dyfu ar raddfa annormal. Gelwir y celloedd annormal hyn yn 'celloedd malaen' (malignant) ac maen nhw'n rhannu'n llawer cyflymach na chelloedd normal.
Wrth i'r celloedd annormal rannu a rhannu, gallant droi'n lwmp neu'n glwstwr a elwir yn diwmor. Mae rhai tiwmorau'n anfalaen (benign), sy'n golygu nad oes angen eu trin, ond gall tiwmorau malaen ledaenu'n gyflym a rhaid iddynt gael eu trin yn syth. Maen nhw'n beryglus gan iddynt allu lledaenu i rannau eraill y corff a'u rhwystro rhag gweithio'n iawn.
Mae sawl math o ganser. Y mathau cyffredin yw canser y croen, canser y fron, canser yr ysgyfaint, canser y brostad, canser y ceiliau, lewcemia a lymffoma. Ond, gall canser ddatblygu unrhyw le yn y corf.
Gall rhai mathau o ganser gael ei drechu os maen nhw’n cael ei ddal yn ddigon cynnar.
Nid yw canser yn glefyd heintus – fedri di ddim dal canser o bobl eraill na'i roi i unrhyw un.
Mae canser yn anghyffredin ymhlith pobl ifanc, ac eithrio canser y ceilliau, sy'n effeithio ar ddynion 15-35 oed.
Gall leihau'r risg o gael canser trwy beidio ag ysmygu, bwyta'n iachus ac osgoi aros allan yn yr haul neu drwy ddefnyddio hufen haul â ffactor uchel drwy'r amser.
Mae’r Côd Ewropeaidd yn Erbyn Cancr yn rhoi rhestr o’r pethau i edrych allan amdanynt, gan gynnwys:
- Lwmp unrhyw le ar dy gorff
- Newidiadau mewn gwadd neu ar dy groen
- Peswch neu grygni (hoarseness) sydd ddim yn gwella
- Gwaedu annormal
- Colli pwysau heb reswm
Paid â bod yn swil os oes gen ti'r symptomau hyn. Mae modd gwella'r rhan fwyaf o ganserau os ydynt yn cael eu darganfod yn ddigon cynnar felly paid oedi, cer i weld y meddyg yn syth.