Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Tarwden y Traed
Yn yr Adran Hon
- Maetheg
- Gordewdra
- Gweithgaredd Corfforol
- Llysieuwyr a Feganiaid
- Anemia
- Diabetes
- Asthma
- Alergeddau
- Clefyd y Gwair
- Ecsema
- Croen a Sbotiau
- Torheulo a Chael Lliw Haul
- Tatŵs a Chelf y Corff
- Atal Dweud
- Heintiau Wrin a Gwlychu
- Arogleuon y Corff
- Tarwden y Traed
- Cur Pen a'r Meigryn
- Cysgu
- Epilepsi
- M.S.
- M.E.
- M.D.
- Llid yr Ymennydd
- Canser
Tarwden y Traed
Tarwden y Traed (Athlete's Foot) ydy haint ffwngaidd parhaus sydd yn tyfu mewn rhannau cynnes, chwyslyd y corff, fel rhwng bysedd y traed.
Gall y ffwng ymledu i ewinedd y traed. Bydd tarwden y traed yn gwneud i’r traed gosi, a bod yn goch ac yn ddolurus. Fe allai’r traed fod ag arogl drwg arnyn nhw.
Os na fydd tarwden y traed yn cael ei drin, fe ddaw’r croen yn soeglyd a bydd yn cracio ac yn pilio. Gallai’r croen godi pothelli a dod yn ddolurus, ac fe allai ddatblygu haint bacteriol mwy difrifol.
Mae tarwden y traed yn heintus. Gallet ti gael tarwden y traed o rannu tyweli ac o amgylcheddau comunol, gwlyb fel ystafelloedd newid pwll nofio neu gawodydd. Gwisga fflip-fflops neu esgidiau plastig bob amser i amddiffyn dy draed.
Triniaethau:
- Os byddi di'n rhoi powdwr tarwden y traed ac eli gwrth-ffwngaidd (sy’n cynnwys clotrimazole) ar dy draed fe ddylai hyn helpu
- Os na fydd hyn yn helpu, cer i weld dy feddyg a fydd, o bosib, yn gallu rhagnodi tabled gwrth-ffwngaidd i ti
Atal
Cadwa dy draed yn rhydd o haint ffwngaidd trwy:
- Gadw'r traed ac esgidiau yn sych
- Gwisga hosanau glân bob dydd
- Paid gwisgo esgidiau heb hosanau neu deits
- Amrywia’r esgidiau rwyt ti’n eu gwisgo
- Gwisga esgidiau a hosanau o’r maint iawn
- Torra ewinedd dy draed yn iawn
Os wyt ti’n poeni am dy draed, cer i weld dy feddyg a fydd yn gallu trafod y driniaeth sy’n iawn i ti.