Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Llid yr Ymennydd



Llid yr Ymennydd

Mae llid yr ymennydd (meningitis) yn llid (inflammation) o'r pilenni (membranes) sy'n gorchuddio'r ymennydd a llinyn y cefn. Fel arfer, haint fydd yn ei achosi a gall effeithio ar bobl o bob oed.

Mae yna ddau fath o lid yr ymennydd:

  • Llid yr Ymennydd Firaol: Dyma’r un mwyaf cyffredin ymhlith oedolion ifanc, ac nid oes angen ei drin. Mae’r symptomau’n debyg i rai’r ffliw gyda thwymyn a chyhyrau dolurus.
  • Llid yr Ymennydd Bacteriol: Mae Llid yr Ymennydd Bacteriol yn beryglus iawn a gall fygwth bywyd. Gall y symptomau ddatblygu’n gyflym cyn pen oriau a gallan nhw gynnwys:
    • Cur pen difrifol
    • Gwres
    • Cric yn y gwddf
    • Sensitifrwydd i oleuadau llachar
    • Cyfog a chwydu
    • Brech goch neu biws sydd ddim yn diflannu wrth ei bwyso h.y. gyda gwydryn. Gall y frech yma gychwyn ar ffurf priciau pin coch neu biws ar y croen

Os oes gen ti neu unrhyw un o dy ffrindiau unrhyw rai o’r symptomau yma, mae’n rhaid i ti gael help meddygol ar unwaith gan ei bod yn bosib y bydd angen triniaeth yn yr ysbyty yn syth.

Gall Llid yr Ymennydd Bacteriol achosi cymhlethdodau gan gynnwys niwed i’r clyw, niwed i’r nerfau, strôcs, niwed i'r ymennydd a marwolaeth.

Llid yr ymennydd meningococcal yw’r math mwyaf cyffredin o lid yr ymennydd bacteriol, a bydd hwn yn lledaenu’n gyflym trwy besychu, tisian a chusanu. Mae’n effeithio ar bobl ifanc yn bennaf.

Grwpiau B a C yw’r enwau ar y mathau mwyaf cyffredin o lid yr ymennydd meningococcal.

Nid oes unrhyw frechiad ar gyfer grŵp B eto, ond mae imiwneiddiad yn erbyn llid yr ymennydd grŵp C yn rhad ac am ddim i bobl dan 25 oed. Os nad wyt ti wedi cael dy frechu eto, trefna apwyntiad gyda’r Meddyg Teulu cyn gynted â phosib.

Gall llid yr ymennydd ladd, felly bydda'n ymwybodol o’r symptomau a chwilio am help meddygol yn syth os bydd unrhyw rai o’r symptomau’n datblygu.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50