Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol
Yn yr Adran Hon
Iechyd Emosiynol a Meddyliol
Bydd un ymhob pedwar ohonom yn profi problem lles meddwl difrifol rywbryd yn ein bywyd. Golygai hyn ei bod yn hynod o annhebygol y bydd unrhyw rai ohonom yn mynd drwy ein bywydau heb fod â phroblem iechyd meddwl neu fod yn agos at rywun sydd ag un.
Mae lles emosiynol wedi cael ei ddisgrifio fel – cyflwr holistig, goddrychol sy'n bresennol pan fydd ystod o deimladau (fel ynni, hyder, bod yn agored, mwynhad, hapusrwydd, tawelwch meddwl a bod yn ofalgar) yn cael eu cyfuno ac yn gytbwys.
Yn gyffredinol mae gan berson ifanc sy'n iach yn emosiynol y gallu i:
- Ddatblygu yn seicolegol, emosiynol, cymdeithasol, creadigol ac yn ysbrydol, i ddod yn rhyngddibynnol
- Defnyddio a mwynhau unigedd
- Dibyniaeth
- Sefydlu, datblygu a chynnal perthnasoedd sy'n bodloni'r ddwy ochr
- Bod yn ymwybodol o eraill a dangos empathi tuag atynt
- Chwarae a dysgu
- Adnabod a rheoli teimladau cryf gan gynnwys rhwystredigaeth a dicter
- Datblygu gwydnwch (resilience), wynebu a datrys problemau a dysgu ohonynt
Mae iechyd meddwl yn ei hanfod yn ymwneud â lles emosiynol. Mae'r termau iechyd emosiynol, lles emosiynol ac iechyd meddwl yn tueddu i gael eu defnyddio yn gydgyfnewidiol. Mae pawb efo iechyd meddwl, a gall hyn newid – weithiau efallai bod gennym iechyd meddwl dda ac ar adegau eraill efallai bod ein hiechyd meddwl yn wael.
Mae iechyd meddwl yn gallu effeithio ar sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo amdanynt eu hunain, pobl eraill a sut maent yn ymdrin â gwahanol ddigwyddiadau. Mae iechyd meddwl hefyd yn cael effaith gref ar iechyd corfforol pobl oherwydd mae'r modd yr ydym yn teimlo ac yn meddwl yn cael dylanwad mawr ar ein hiechyd corfforol.
Mae yna ddeg peth allweddol galli di ei wneud i sicrhau dy fod di'n cadw dy feddwl mor iach â phosib:
- Siarad am dy deimladau
- Cadw'n actif
- Bwyta'n dda
- Cyfyngu alcohol
- Treulio amser gyda ffrindiau a theulu
- Gofyn am help
- Cymryd egwyl
- Gwneud rhywbeth ti'n dda yn gwneud
- Bod yn ti dy hun
- Gofalu am eraill
Clicia ar rai o'r is-benawdau uchod i ddarganfod mwy am rai o'r problemau iechyd meddwl mwyaf cyffredin.