Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Croen a Sbotiau
Yn yr Adran Hon
- Maetheg
- Gordewdra
- Gweithgaredd Corfforol
- Llysieuwyr a Feganiaid
- Anemia
- Diabetes
- Asthma
- Alergeddau
- Clefyd y Gwair
- Ecsema
- Croen a Sbotiau
- Torheulo a Chael Lliw Haul
- Tatŵs a Chelf y Corff
- Atal Dweud
- Heintiau Wrin a Gwlychu
- Arogleuon y Corff
- Tarwden y Traed
- Cur Pen a'r Meigryn
- Cysgu
- Epilepsi
- M.S.
- M.E.
- M.D.
- Llid yr Ymennydd
- Canser
Croen a Sbotiau
Mae acne yn effeithio tua 80% o bobl, ond mae’n effeithio’n fwy ar rai nag ar eraill. Gall acne fod yn unrhyw beth o ychydig o sbotiau i doreth ohonyn nhw ar dy groen.
Mae bechgyn yn fwy tebygol o ddioddef o acne na merched gan fod ganddyn nhw fwy o’r hormon testosteron sy’n gwneud sbotiau yn waeth.
Ar y wyneb y bydd sbotiau yn ymddangos amlaf, ond gallan nhw hefyd ymddangos ar y gwddf, ysgwyddau, cefn a'r frest.
Mae gan y croen llawer iawn o chwarennau (glands) sy'n cynhyrchu olewau naturiol o'r enw sebwm. Yn aml yn ystod y glasoed, gall y chwarennau gynhyrchu gormod o sebwm sy’n blocio mandyllau (pores) y croen. Pan fydd y mandyllau wedi’u blocio, byddan nhw’n trapio bacteria a fydd yn arwain at sbotiau.
Nid yw sbotiau yn ganlyniad uniongyrchol i fwyta bwydydd seimllyd neu siwgrog, er y bydd diet cytbwys gyda llawer o ffrwythau a llysiau’n gwella cyflwr dy groen ac yn rhoi golwg iach naturiol i ti.
Bydd yfed llawer o ddŵr, cadw’n lân a gwneud ymarfer corff hefyd yn helpu’r croen.
Mae’n bosib trin sbotiau trwy ddefnyddio hylif ymolchi'r wyneb meddyginiaethol, hufen glanhau'r wyneb a hufenau lleithio (moisturiser). Mae eli rhisgl (witch hazel) yn dda iawn ar gyfer cael gwared â sbotiau. Y peth gorau i’w wneud yw gofyn i fferyllydd beth fyddai’r triniaethau gorau i ti.
Bydd rhai pobl yn dioddef o acne difrifol hefyd. Gallet ti siarad gyda dy feddyg a fydd yn gallu rhoi cyngor i ti a siarad am driniaethau addas ar bresgripsiwn.
Gall straen effeithio ar dy groen ac achosi i sbotiau ymddangos. Os wyt ti dan bwysau, ceisia ddod o hyd i rywun i siarad â nhw.
Mae yna fathau eraill o farciau ar y croen hefyd, gan gynnwys llosgiadau, mannau geni, creithiau, anffurfiadau a llidau’r (irritation) croen.
Gall marciau’r croen effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Os wyt ti'n teimlo’n anhapus ynglŷn â marc ar y croen, ceisia siarad â rhywun rwyt ti'n ymddiried ynddyn nhw.