Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Gordewdra
Yn yr Adran Hon
- Maetheg
- Gordewdra
- Gweithgaredd Corfforol
- Llysieuwyr a Feganiaid
- Anemia
- Diabetes
- Asthma
- Alergeddau
- Clefyd y Gwair
- Ecsema
- Croen a Sbotiau
- Torheulo a Chael Lliw Haul
- Tatŵs a Chelf y Corff
- Atal Dweud
- Heintiau Wrin a Gwlychu
- Arogleuon y Corff
- Tarwden y Traed
- Cur Pen a'r Meigryn
- Cysgu
- Epilepsi
- M.S.
- M.E.
- M.D.
- Llid yr Ymennydd
- Canser
Gordewdra
Mae bod yn ordew yn golygu y gallai pwysau rhywun beryglu ei iechyd. Gall pobl ddod yn ordew yn raddol wrth iddyn nhw fwyta mwy o galorïau nag sy'n cael ei ddefnyddio trwy ymarfer corf.
Mae yna rai cyflyrau meddygol sy'n achosi i bobl roi pwysau ymlaen, os wyt ti'n meddwl dy fod di'n rhoi pwysau ymlaen heb unrhyw reswm amlwg mae’n beth doeth i drafod dy bryderon gyda'r meddyg teulu fydd yn rhoi cyngor i ti am golli pwysau beth bynnag yw'r rheswm.
Mae Indecs Màs y Corff (BMI) yn rhoi syniad i ti os wyt ti dros bwysau.
Cyfrifo BMI
- Mesur dy daldra mewn metrau a'i luosi â'i hun = X
- Mesur dy bwysau mewn cilogramau = Y
- Rhannu Y gyda X = BMI
Er enghraifft, yn achos rhywun sy’n pwyso 80kg ac sy’n 1.7m o daldra:
- 1.7 x 1.7 = 2.89 (X)
- 80 (Y) rhannu â 2.89 = BMI 27.68 – mae hyn yn y categori rhy drwm.
Mae’r canlynol yn nodi beth sy’n bwysau iach yn ôl BMI:
- BMI llai nag 20 – pwysau isel
- BMI 20 i 25 - pwysau iach
- BMI 25 i 30 – dros bwysau
- BMI 30+ - gordew
Bydd bwyta diet iach, cytbwys a gwneud ymarfer corff yn helpu i leihau pwysau ac i gynnal pwysau iach. Edrycha ar adrannau Maetheg a Gweithgarwch Corfforol CLIC.
Nid yw dietau ffasiynol a dietau carlam yn ffordd synhwyrol o golli pwysau. Bydd deall y grwpiau bwydydd y mae angen i ti eu cynnwys yn dy ddiet a’r dognau iawn o fwydydd i’w bwyta yn helpu ti i newid i ddiet gallet ei ddilyn am weddill dy fywyd. Nid yw'n realistig i benderfynu na fyddi di'n bwyta sglodion, siocled a theisennau byth eto.
Fe fydd bwyta llai o’r bwydydd yma a bwyta mwy o ffrwythau a llysiau (o leiaf pum dogn y dydd) yn dy ddiet dyddiol, a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd (e.e. cerdded 30 munud y dydd) yn fwy effeithiol i helpu ti i golli pwysau.