Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Epilepsi
Yn yr Adran Hon
- Maetheg
- Gordewdra
- Gweithgaredd Corfforol
- Llysieuwyr a Feganiaid
- Anemia
- Diabetes
- Asthma
- Alergeddau
- Clefyd y Gwair
- Ecsema
- Croen a Sbotiau
- Torheulo a Chael Lliw Haul
- Tatŵs a Chelf y Corff
- Atal Dweud
- Heintiau Wrin a Gwlychu
- Arogleuon y Corff
- Tarwden y Traed
- Cur Pen a'r Meigryn
- Cysgu
- Epilepsi
- M.S.
- M.E.
- M.D.
- Llid yr Ymennydd
- Canser
Epilepsi
Mae epilepsi yn gyflwr sy’n achosi rhywun i gael ffitiau trosodd a throsodd. Bydd ffitiau yn digwydd pan fydd ymyriad ar weithio arferol yr ymennydd.
Gall epilepsi effeithio ar unrhyw un, ac mae’n eithaf cyffredin. Er y gall epilepsi ddatblygu waeth beth fo’r oed, mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n dioddef o’r cyflwr wedi ei ddatblygu yn ystod eu plentyndod.
Mae yna wahanol fathau o ffitiau a gall y symptomau amrywio. Yn aml, does neb yn gwybod beth sy’n ei achosi, ond gall yfed gormod o alcohol, diffyg cwsg, teimlo'n sâl neu dan straen, rhai bwydydd penodol neu ddiet gwael a goleuadau sy’n fflachio, fel ar y teledu neu gemau cyfrifiadurol, beri pyliau o epilepsi.
Yn ystod ffit fe allet ti golli ymwybod, dod yn benysgafn, dioddef o gyfangiadau cyhyrol – ble fydd y breichiau a’r coesau yn gwingo – neu mae'r corff yn crynu neu stiffio. Gall trawiad bara ychydig o eiliadau neu fe all bara hyd at nifer o funudau.
Mae modd trin epilepsi gyda chyffuriau y bydd dy feddyg yn eu rhagnodi. Bydd yn darparu’r cyffuriau gorau gyda’r sgïl-effeithiau lleiaf posib sy’n addas i ti. Mae trin epilepsi gyda chyffuriau fel arfer yn llwyddiannus iawn, a gall weithiau ddod â ffitiau i ben yn llwyr.
Gall fod yn brofiad brawychus cael ffit epileptig neu weld rhywun arall yn cael ffit. Os wyt ti'n adnabod rhywun ag epilepsi, byddai’n beth doeth dysgu beth i’w wneud pe byddai’n cael ffit, a bod yn barod ar gyfer hyn trwy gael rhywfaint o brofiad o gymorth cyntaf.