Gwybodaeth » Iechyd » Rhywioldeb ac Iechyd Rhyw
Yn yr Adran Hon
Rhywioldeb a Iechyd Rhyw
Mae iechyd rhywiol yn fwy na phenderfynu ar atal cenhedlu, a gwarchod dy hun rhag clefydau a drosglwyddir yn rhywiol. Mae’n ymwneud â gwneud dewisiadau cadarnhaol i ti a dy gariad.
Mae iechyd rhywiol a dysgu sut i edrych ar ôl dy hun yn bwysig. Gall unrhyw un sy’n cael rhyw fod mewn perygl o ddal haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI). Dyw rhai pobl ddim yn dangos unrhyw symptomau a cheir canlyniadau difrifol os na fydd yr heintiau hyn yn cael eu trin.
Ar y tudalennau hyn gall gael cyngor ynghylch newidiadau i’r corff, materion yn ymwneud ag iechyd rhywiol, fel atal cenhedlu, sut i osgoi haint a sut i gael dy brofi a thrin.
Gallet ti hefyd ddarganfod gwybodaeth am dueddfryd rhywiol a hunaniaeth rhyw.