Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Torheulo a Chael Lliw Haul



Torheulo a Chael Lliw Haul

Cael Lliw Haul

Gall treulio gormod o amser yn yr haul fod yn beryglus. Gall pelydrau uwchfioled (UV) yng ngolau’r haul niweidio’r celloedd yn dy gorff, a gall hyn arwain at ganser y croen, crychau a heneiddio cynamserol.

Mae cael lliw haul yn broses naturiol – ffordd dy gorff o amddiffyn ei hun rhag yr haul ydy hyn. Pan fydd golau’r haul ar dy groen fe fydd yn creu cemegyn o’r enw melanin, sef cemegyn sy’n gwneud i’r croen fynd yn dywyllach. Bydd hwn yn dy atal rhag llosgi mor hawdd, ond nid yw’n amddiffyn ti rhag heneiddio’n gynamserol na rhag canser.

Y lleiaf o felanin sydd gen ti, y lleiaf yw’r amddiffyniad sydd gen ti rhag yr haul. Mae gan bobl sydd â chroen golau lai o felanin na phobl â chroen tywyllach, ac felly maen nhw’n fwy tebygol o losgi. Mae pobl â gwallt coch neu frychni haul hefyd yn fwy tebygol o losgi.

Mae’n bwysig amddiffyn y croen rhag pelydrau’r haul drwy ddefnyddio eli haul ffactor uchel, rhoi dillad llac dros unrhyw groen sydd i’w weld, a gwisgo het a sbectol haul.

Mae pelydrau’r haul yn gryfach yn agos i ddŵr, tywod ac eira – felly bydda'n fwy gofalus fyth trwy ddefnyddio eli haul ffactor uwch a’i roi ar dy groen yn amlach.

Llosg haul a chanser y croen

Mae llosg haul yn cael ei achosi trwy fod yn yr haul yn rhy hir, gan arwain at groen coch, dolurus a chroen sy'n pilio neu'n pothellu (blister). Bydd hyn yn digwydd amlaf trwy ddefnyddio eli haul â’r ffactor anghywir, neu beidio â defnyddio unrhyw eli haul o gwbl.

Mae’n bosib trin llosg haul trwy ddefnyddio gel aloe vera neu eli ôl-haul. Mewn achosion difrifol, fodd bynnag, efallai y bydd angen ei drin yn yr ysbyty. Mae’n well osgoi trin llosg haul gydag elïau sydd wedi’u seilio ar fenyn neu betrolewm – maen nhw’n trapio’r gwres yn dy groen yn hytrach na’i oeri.

Bob tro y bydd croen yn cael ei losgi neu’n cael lliw haul, mae celloedd y croen yn cael eu niweidio a gall hyn achosi canser y croen, felly mae'n bwysig gofalu am dy groen yn yr haul.Yn 2010 cafodd 12,818 o bobl yn y DU yn cael diagnosis o melanoma niweidiol canser y croen.

Mae’n bwysig cadw llygad ar unrhyw newidiadau mewn môl neu fannau geni, fel newid lliw neu faint, neu os byddan nhw’n dechrau cosi, bod yn boenus neu'n ddolurus.

Ymhlith yr arwyddion rhybuddio eraill mae:

  • Tyfiannau neu smotiau tywyll neu afreolaidd yn ymddangos
  • Pigment yn lledaenu
  • Gwaedu o amgylch mannau geni

Os oes gen ti rhai o’r symptomau yma, mae’n rhaid i ti weld dy feddyg ar unwaith. Mae’n bosib trin llawer o ganserau os ydyn nhw'n cael eu dal yn ddigon buan.

Gwelyau haul,/h4>

Mae’n anghyfreithlon defnyddio gwely haul os wyt ti dan 16 oed. Ni ddylai defnyddio gwely haul bob dydd.

Mae gwelyau haul yr un mor beryglus â’r haul gan eu bod nhw’n creu pelydrau UV niweidiol. Mae’r rhain yn achosi canser y croen, heneiddio cynamserol a chrychau.

Os byddi di'n dewis defnyddio un, gwna'n siŵr dy fod di’n gwisgo goglau i amddiffyn dy lygaid.

I gael lliw haul diogel, heb unrhyw risg o heneiddio neu gael canser y croen, defnyddia liw haul ffug. Mae yna rai cynhyrchion lliw haul ffug naturiol iawn ar y farchnad, ar gael mewn chwistrellau, elïau a mousses. Nid yw lliw haul ffug yn cynnig unrhyw amddiffyniad o'r haul.

Buddiannau’r heulwen

Er bod gormod o haul yn gallu bod yn niweidiol, fe all yr haul fod yn llesol. Pelydriad UV yw ein prif ffynhonnell o Fitamin D sy’n helpu i adeiladu esgyrn a chyhyrau cryf. Mae golau’r haul hefyd yn sbarduno cemegau yn ein hymennydd, sy’n gwneud inni deimlo’n hapus.

Os wyt ti'n poeni am ganser y croen ac am dorheulo, siarada gyda'r Meddyg Teulu sy’n gallu rhoi cyngor pellach am gadw’n ddiogel yn yr haul.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50