Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Gweithgaredd Corfforol



Gweithgaredd Corfforol

Mae ymchwil wedi dangos bod angen i bob un ohonon ni ymarfer corff yn rheolaidd. Mae’r rhan fwyaf o’r ffynonellau cyngor yn datgan y dylen ni geisio gwneud o leiaf 30 munud o weithgaredd corfforol gweddol ddwys o leiaf 5 diwrnod yr wythnos.

Bydd ymarfer corff yn llosgi calorïau gormodol ac yn cynyddu lefelau egni a ffitrwydd, ac mae cyfuno hyn efo diet iach yn gwneud inni deimlo’n dda amdanom ni’n hunain.

Ymhlith buddiannau eraill gweithgaredd corfforol mae lleihau straen, lleihau’r perygl o rai afiechydon penodol fel canser a chlefyd y galon, ac os yw ymarfer corff yn cychwyn yn ifanc mae'n helpu i sicrhau ein bod yn cadw'n weithgar, annibynnol ac yn medru symud wrth inni heneiddio.

Gall ymarfer corff gynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau. Nid oes rhaid iddo fod yn ddiflas ac nid oes rhaid i ti ymuno â champfa neu glwb iechyd. Bydd cerdded neu fynd ar gefn beic i weld ffrind neu i siopa yn lle cymryd bws neu gar, dringo’r staer yn lle mynd mewn lifft, yn ychwanegu at dy lefel ffitrwydd wrth eu hychwanegu i dy weithgareddau dyddiol.

Os wyt ti am ddysgu mwy am weithgareddau sydd wedi’u trefnu, cysyllta gyda'r ganolfan hamdden leol lle gallai fod gweithgareddau fel nofio, erobeg, cic focsio, codi pwysau ac ioga. Un fantais arall o ymuno â grŵp neu glwb yw'r cyfle i wneud ffrindiau newydd. Hefyd, mae'r gweithgareddau hwyl fel dawnsio, chwarae pêl-droed a hyd yn oed bowlio deg i gyd yn weithgareddau fydd yn helpu cadw ti'n heini yn hytrach nag eistedd o flaen y teledu neu sgrin cyfrifiadur.

Am wybodaeth bellach am weithgareddau corfforol a chwaraeon, edrycha ar adran Pethau I'w Gwneud CLIC.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50