Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Cur Pen a'r Meigryn
Yn yr Adran Hon
- Maetheg
- Gordewdra
- Gweithgaredd Corfforol
- Llysieuwyr a Feganiaid
- Anemia
- Diabetes
- Asthma
- Alergeddau
- Clefyd y Gwair
- Ecsema
- Croen a Sbotiau
- Torheulo a Chael Lliw Haul
- Tatŵs a Chelf y Corff
- Atal Dweud
- Heintiau Wrin a Gwlychu
- Arogleuon y Corff
- Tarwden y Traed
- Cur Pen a'r Meigryn
- Cysgu
- Epilepsi
- M.S.
- M.E.
- M.D.
- Llid yr Ymennydd
- Canser
Cur Pen A'r Meigryn
Mae cur pen yn boen yn ardal y pen a'r gwddf, sydd yn gallu amrywio yn ei gryfder. Mae yna dri phrif fath o gur pen: tensiwn, clwstwr a'r meigryn.
Gall straen, ystum corff gwael, straen y llygaid, alcohol, colli dŵr yn y corff a chwant bwyd beri cur pen.
Cur pen tensiwn
Dyma’r cur pen mwyaf cyffredin, ac mae’n tueddu i effeithio ar ferched yn fwy nag ar ddynion.
Y symptomau yw pwysau ar ochr y pen, gwddf a'r llygaid neu boen ysgafn sy'n gwaethygu gydol y dydd.
Mae posib lleddfu'r fath yma o gur pen gyda phoen laddwyr fel ibuprofen neu barasetamol. Fodd bynnag, paid â chymryd poen laddwyr yn rhy reolaidd, gan y gallai’r corff ddod i ddibynnu arnyn nhw.
Cur pen clwstwr
Mae’r cur pen yma’n anghyffredin a gall y symptomau bara am oriau neu ddyddiau hyd yn oed. Mae’n tueddu i effeithio ar fwy o ddynion nag o ferched.
Y symptomau yw pigyn sydyn un ochr o’r pen ac o amgylch un llygad. Gall y llygad ddod yn llidiog ac yn ddyfrllyd.
Ni fydd poen laddwyr safonol yn helpu’r math yma o gur pen, felly mae angen i ti weld dy feddyg a fydd yn rhagnodi’r driniaeth sydd orau i ti.
Y Meigryn
Mae’r meigryn yn llawer mwy na chur pen a gall ddod yn ôl yn ddi-baid.
Mae pibellau gwaed wedi’u cyfyngu yn y pen a’r gwddf sy’n achosi’r meigryn. Gallan nhw bara am dair i 72 awr a gallan nhw dy adael yn teimlo wedi blino’n lân am ddyddiau wedyn.
Ymhlith y symptomau mae plyciau o boen, yn aml ar un ochr o'r pen, cyfog, chwydu neu benysgafnder, dolur rhydd (diarrhoea), sensitifrwydd i oleuadau, mannau dall a sŵn.
Os wyt ti'n dioddef yn aml o gur pen neu’r meigryn, cer i weld dy Feddyg Teulu am gyngor ac archwiliad.