Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Anemia
Yn yr Adran Hon
- Maetheg
- Gordewdra
- Gweithgaredd Corfforol
- Llysieuwyr a Feganiaid
- Anemia
- Diabetes
- Asthma
- Alergeddau
- Clefyd y Gwair
- Ecsema
- Croen a Sbotiau
- Torheulo a Chael Lliw Haul
- Tatŵs a Chelf y Corff
- Atal Dweud
- Heintiau Wrin a Gwlychu
- Arogleuon y Corff
- Tarwden y Traed
- Cur Pen a'r Meigryn
- Cysgu
- Epilepsi
- M.S.
- M.E.
- M.D.
- Llid yr Ymennydd
- Canser
Anemia
Daw anemia o ganlyniad i ddiffyg celloedd gwaed coch yn y corff. Anemia diffyg haearn yw’r math mwyaf cyffredin o anemia ac mae'n cael ei achosi gan y corff yn colli gwaed yn gyflymach nag y gallai ei gynhyrchu.
Gall golli haearn mewn chwys, mewn celloedd sy’n cwympo o’r croen ac yng ngwaed mislifol. Os wyt ti'n cael mislif trwm mae'n syniad da cymryd tabled haearn bob dydd. Os nad wyt ti'n bwyta cig, mae’n bosib y bydd gen ti ddiffyg haearn.
Mae’r canlynol ymhlith y pethau sy'n achosi anemia:
- Diet heb lawer o haearn a fitaminau, yn enwedig B12
- Mislif trwm
- Wlserau neu diwmorau yn y stumog
- Diffyg asid ffolig
- Afiechydon mêr esgyrn neu afiechydon gwaed eraill fel lewcemia
Mae’r canlynol ymhlith symptomau anemia:
- Diffyg anadl
- Teimlo’n flinedig trwy’r amser
- Edrych yn llwyd ac yn welw
- Curiad afreolaidd y galon
- Penysgafnder
Gall anemia arwain at:
- Boen yn y frest a’r coesau
- Cur pen
- Croen llwyd
- Ewinedd gwan a brau
- Colli pwysau
Gall anemia effeithio ar blant a phobl yn eu harddegau sy’n tyfu, fel arfer oherwydd nad yw eu diet yn cynnwys digon o haearn, fitamin b12 ac asid ffolig.
Mae bwyd sy’n llawn haearn yn cynnwys cig coch, llysiau gwyrdd, wyau, bricyll sychion, sardinau, sbigoglys, bara gwenith cyfan a grawnfwydydd brecwast cadarn.
Mae bod yn feichiog hefyd yn amser pan fydd y corff yn gallu diffyg haearn a gall hyn ddatblygu yn anemia
Mae yna fathau eraill o anemia ond nid yw’r rhain mor gyffredin.
Os byddi di’n dioddef o unrhyw rai o’r symptomau sydd wedi’u crybwyll, sicrha dy fod di’n cysylltu â’r meddyg.