Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Alergeddau



Alergeddau

Alergedd yw’r hyn sy’n digwydd pan fydd dy gorff yn adweithio yn erbyn rhai sylweddau penodol.

Alergenau yw’r enw ar y sylweddau yma, a gallan nhw amrywio o wahanol fwydydd i laswellt a phaill coed ac anifeiliaid anwes. Mae yna nifer fawr iawn o alergenau sy’n effeithio ar wahanol bobl.

Mae'r corff yn meddwl bod y sylweddau yma, sef sylweddau cyffredin iawn yn aml, yn ddrwg i ti ac mae’n ymladd yn eu herbyn gan achosi pob math o symptomau gan gynnwys:

  • Tisian
  • Gwichian yn y frest
  • Brechau
  • Chwydu
  • Dolur rhydd (diarrhoea)

Gall alergeddau difrifol iawn achosi anaffylacsis, sef adwaith alergaidd difrifol a sydyn sy’n effeithio ar y corff cyfan ac sy’n rhoi pwysau mawr ar y galon a system cylchrediad y gwaed. Os na fydd anaffylacsis yn cael ei drin yn gyflym fe allai fod yn farwol.

Clefyd y Gwair (hayfever)

Clefyd y gwaed yw’r alergedd y mae paill (pollen) yn ei achosi, a bydd yn effeithio ar bobl yn bennaf yn ystod misoedd yr haf. Pan fydd y paill yn cael ei fewnanadlu bydd yn achosi i’r corff gynhyrchu histamin a bydd y rhain yn gwneud i ti disian, i'r llygaid ysu ac i’r trwyn redeg.

Mae yna nifer o gynhyrchion ar gael sy’n lleddfu symptomau Clefyd y Gwair, ac mae modd prynu’r rhain mewn siop fferyllydd.

Pigiadau a Brathiadau

Gall rhai anifeiliaid, yn enwedig trychfilod, bigo neu frathu os byddan nhw’n dod i gysylltiad â’r croen. Gall y colyn (sting) y maen nhw’n ei adael ar ôl, neu’r poer y maen nhw’n ei adael yn y llif gwaed pan fyddan nhw’n brathu, achosi adwaith alergaidd.

Ymhlith y symptomau mae ysu, poen, cochni a chwydd ac weithiau adwaith alergaidd difrifol – sioc anaffylactig. Mae’n bwysig trin yr alergeddau yma a cheisio cyngor meddygol os yw’r adwaith yn ddifrifol.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50