Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Arogleuon y Corff



Arogleuon y Corff

Chwysu yw ffordd y corff o gael gwared â gwres mae’r corff yn ei gynhyrchu o losgi egni neu o’r cyhyrau'n gweithio.

Bydd pawb yn chwysu i raddau gwahanol ar wahanol adegau, gan ddibynnu ar eu cyflwr emosiynol neu weithgaredd corfforol. Bydd pobl yn tueddu i chwysu mwy yn ystod ymarfer corff neu pan maen nhw’n nerfus.

Nid oes arogl drwg ar chwys mewn gwirionedd – y bacteria sy’n byw ar dy groen ac yn adweithio â’r chwys sy’n achosi’r arogleuon.

Gallet ti atal arogleuon y corff drwy ymolchi yn rheolaidd i gael gwared â’r bacteria ar dy groen. Dylet ti gael cawod drylwyr o leiaf unwaith bob dydd gan ddefnyddio sebon diarogli. Mae’n bwysig cadw dy hun yn lân.

Golcha dy ddillad yn amlach – paid â gwisgo dillad sydd heb eu golchi ddydd ar ôl dydd. Dylet ti olchi dillad chwyslyd ar dymheredd uwch i’w glanhau yn iawn.

Gwisga ddillad sydd wedi'u gwneud o ffibrau naturiol gan fod y rhain yn gadael i'r croen 'anadlu' ac i'r chwys anweddu.

Defnyddia diaroglydd. Os wyt ti'n chwysu’n drwm, ceisia ddefnyddio diaroglydd sy’n cynnwys alwminiwm ocsid neu wrth chwyswr (anti-perspirant). Os wyt ti'n gweld dy fod di’n chwysu llawer, edrycha am ddiaroglydd meddyginiaethol.

Hefyd, dylet ti osgoi bwyta bwydydd sbeislyd neu rai sydd ag oglau cryf fel garlleg a nionod. Fe fydd yr arogleuon yn dod allan trwy’r croendyllau (pores).

Dylet ti yfed digonedd o ddŵr.

Os byddi di'n sylwi ar arogl sydd ddim yn oglau chwyslyd amlwg, fe allai hyn awgrymu problem benodol:

  • Gall oglau cwrw awgrymu cyflwr burum (yeast)
  • Gall oglau codwr farnis ewinedd awgrymu diabetes
  • Gall oglau amonia awgrymu afiechyd yr iau

Mae straen yn gwneud i ti chwysu mwy, a bydd llawer o ferched yn sylwi eu bod nhw’n chwysu mwy yn ystod eu mislif.

Os wyt ti’n dioddef o ddwylo, wyneb, ceseiliau a chroen pen sy’n rhy chwyslyd, mae’n bosib dy fod di'n dioddef o gyflwr o’r enw hyperhydrosis.

Paid â theimlo cywilydd am chwysu. Gwna'n siŵr dy fod di’n cadw’r corff a’r dillad yn lân i osgoi arogleuon hen.

Os oes gen ti unrhyw bryderon, fe ddylet ti fynd i weld dy feddyg a fydd yn gallu rhoi cyngor i ti a dod o hyd i'r driniaeth iawn i ti.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50