Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Cysgu



Cysgu

Ar gyfartaledd, byddwn ni’n cysgu tua traean o’n bywydau. Mae angen inni gysgu er mwyn cadw’n meddwl a’n corff yn gweithio’n iawn.

Bydd angen tua 9–10 awr o gwsg bob nos ar blant hŷn, a bydd angen tua 7–8 awr bob nos ar oedolion. Mae’n bosib y bydd angen mwy fyth ar bobl yn eu harddegau sy’n mynd trwy eu glasoed.

Mathau o gwsg

Mae yna ddau fath o gwsg a byddwn ni’n symud rhyngddyn nhw gydol y nos:

  • Cwsg Symudiad Llygad Cyflym (REM) - Yn ystod y math yma o gwsg y byddwn ni’n breuddwydio. Bydd ein hymennydd yn fywiog, bydd y cyhyrau wedi ymlacio a bydd ein llygaid yn symud yn gyflym o’r naill ochr i’r llall
  • Cwsg trwm - Bydd yr ymennydd yn dawel ond bydd y corff yn symud o gwmpas. Dyma pryd y bydd y corff yn trwsio’i hun ac yn gwella ar ôl prysurdeb y dydd

Yn ystod noson arferol, byddwn ni hefyd yn deffro am ryw funud neu ddau. Oni bai ein bod ni’n pryderu ynglŷn â rhywbeth, ni fyddwn ni fel arfer yn cofio deffro.

Insomnia

Insomnia neu anhunedd yw'r enw ar gyflwr methu â chysgu, a gall straen, cynnwrf, bwyta'n hwyr yn y nos, bod yn llwglyd, alcohol, caffein a chyffuriau sy’n symbylu, gan gynnwys nicotin, ei achosi.

Ymhlith ffactorau eraill sy'n gallu arwain at insomnia mae gwely neu ystafell wely anghyfforddus, problemau iechyd corfforol, apnoea cwsg (anadlu’n annormal wrth gysgu), asthma, tinitws, poen a diffyg traul.

Cerdded Yn Eich Cwsg

Mae cerdded yn eich cwsg yn gyffredin ymysg plant ac oedolion ifanc. Mae’n tueddu i redeg yn y teulu.

Nid oes neb yn deall yn iawn pam y bydd rhai pobl yn ei wneud, ond y gred yw bod yna gysylltiad rhyngddo a straen neu bryder. Nid yw’n gyflwr difrifol.

Y perygl yw y gallai unrhyw un sy’n cerdded yn ei gwsg faglu neu gwympo. Sicrha bod y drysau wedi cloi a'r allweddau allan o gyrraedd, ac arhosa gyda rhywun sy’n cerdded yn ei gwsg tan ei fod yn ôl yn ei wely yn ddiogel.

Gallet ti ddeffro rhywun sy’n cerdded yn ei gwsg heb ei beryglu, ond nid yw'n cael ei argymell gan y gallai fod yn brofiad brawychus iddynt.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50