Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Atal Dweud
Yn yr Adran Hon
- Maetheg
- Gordewdra
- Gweithgaredd Corfforol
- Llysieuwyr a Feganiaid
- Anemia
- Diabetes
- Asthma
- Alergeddau
- Clefyd y Gwair
- Ecsema
- Croen a Sbotiau
- Torheulo a Chael Lliw Haul
- Tatŵs a Chelf y Corff
- Atal Dweud
- Heintiau Wrin a Gwlychu
- Arogleuon y Corff
- Tarwden y Traed
- Cur Pen a'r Meigryn
- Cysgu
- Epilepsi
- M.S.
- M.E.
- M.D.
- Llid yr Ymennydd
- Canser
Atal Dweud
Bydd atal dweud yn digwydd pan fydd toriad yn y llif geiriau arferol oherwydd sill sy’n cael ei ailadrodd drosodd a throsodd, sain estynedig neu floc llwyr ar y lleferydd. Mae gan bawb sydd ag atal dweud arnyn nhw batrwm atal dweud gwahanol.
Nid oes unrhyw un yn gwybod beth sy’n achosi atal dweud, er mai’r gred yw bod straen corfforol neu emosiynol, bywyd yn y cartref a’r ysgol ac amgylchedd y sawl sy’n dioddef ohono yn cael rhyw effaith.
Bydd rhai pobl sydd ag atal dweud arnyn nhw’n osgoi rhai geiriau neu sefyllfaoedd y maen nhw’n gwybod bydd yn achosi problem iddyn nhw. Weithiau gall atal dweud rhedeg yn y teulu.Yn aml, bydd yr atal dweud yn diflannu wrth ganu, sibrwd neu siarad fel grŵp.
Os wyt ti'n ei chael yn anodd cael dy eiriau allan, rho gynnig ar y canlynol:
- Siarad yn araf ac yn eglur
- Cymryd anadl dwfn ac ymlacio cyn dechrau siarad
- Eistedd a sefyll yn syth
- Edrych i fyw llygad y bobl ti'n siarad â nhw
- Efallai gallet ti gysylltu â therapydd lleferydd a fydd yn gallu rhoi mwy o gyngor i ti ar sut i drin atal dweud