Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Ecsema
Yn yr Adran Hon
- Maetheg
- Gordewdra
- Gweithgaredd Corfforol
- Llysieuwyr a Feganiaid
- Anemia
- Diabetes
- Asthma
- Alergeddau
- Clefyd y Gwair
- Ecsema
- Croen a Sbotiau
- Torheulo a Chael Lliw Haul
- Tatŵs a Chelf y Corff
- Atal Dweud
- Heintiau Wrin a Gwlychu
- Arogleuon y Corff
- Tarwden y Traed
- Cur Pen a'r Meigryn
- Cysgu
- Epilepsi
- M.S.
- M.E.
- M.D.
- Llid yr Ymennydd
- Canser
Ecsema
Mae ecsema, neu ddermatitis, yn gyflwr croen sy’n gallu effeithio ar unrhyw un. Fel arfer fe fydd i'w weld fel croen sych a fflawiog sy’n cosi, gan achosi llid (irritation) a brech goch ddolurus.
Gall ecsema gael ei sbarduno gan:
- Llwch
- Anifeiliaid anwes
- Alergeddau bwyd
- Glanedyddion (detergents)
- Sebonau
- Cynhyrchion harddwch
Gall y pethau canlynol hefyd achosi ecsema:
- Asthma
- Clefyd y gwair
- Straen
- Gall fod yn etifeddol
Paid â theimlo cywilydd os wyt ti'n dioddef o ecsema. Mae yna lawer o driniaethau ar gael, fel hufenau lleithio arbenigol, olewau bath a gwrth-histaminau. Ond siarada gyda'r meddyg neu fferyllydd i gael cyngor ar y driniaeth sydd orau i ti.
Gall cymryd pils melyn yr hwyr (evening primrose) ac osgoi cynhyrchion llaeth helpu rhai pobl ag ecsema hefyd. Siarada â dietegwr i gael cyngor ar y bwydydd y dylet ti geisio’u hosgoi.