Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Maetheg
Yn yr Adran Hon
- Maetheg
- Gordewdra
- Gweithgaredd Corfforol
- Llysieuwyr a Feganiaid
- Anemia
- Diabetes
- Asthma
- Alergeddau
- Clefyd y Gwair
- Ecsema
- Croen a Sbotiau
- Torheulo a Chael Lliw Haul
- Tatŵs a Chelf y Corff
- Atal Dweud
- Heintiau Wrin a Gwlychu
- Arogleuon y Corff
- Tarwden y Traed
- Cur Pen a'r Meigryn
- Cysgu
- Epilepsi
- M.S.
- M.E.
- M.D.
- Llid yr Ymennydd
- Canser
Maetheg
Er mwyn cadw’n iach a chymryd rhan actif ymhob agwedd ar fywyd, mae angen i ti wybod am bwysigrwydd bwyta’r bwydydd iawn.
Gall rhoi bwyd mewn gwahanol grwpiau, gyda phob grŵp yn darparu maetholion sy’n hanfodol i'r corff dyfu, cadw’n heini ac i wrthsefyll germau. Dyma’r grwpiau bwyd:
- Proteinau – Bwydydd yw’r rhain sy’n helpu i gryfhau’r corff ac maen nhw i’w cael mewn cig coch a gwyn, pysgod, cnau, soia, ffa, wyau a bwydydd llaeth fel llaeth, caws ac iogwrt. Mae maethegwyr yn cynghori pobl ifanc i fwyta 2 i 3 dogn o’r grŵp yma bob dydd
- Carbohydradau – Bwydydd yw’r rhain sy’n darparu egni ac maen nhw i’w cael mewn bara, tatws, grawnfwydydd, reis a phasta. Dylai pobl ifanc anelu at fwyta tua chwe dogn o’r grŵp yma bob dydd a chynnwys y mathau ffeibr-uchel fel reis brown a bara gwenith cyflawn
- Brasterau – Bydd gormod o fraster, yn enwedig brasterau dirlawn (saturated), yn achosi rhywun i roi pwysau ymlaen, ac yn effeithio ar y galon a dannedd, ond mae’n hanfodol cynnwys rhywfaint o fraster yn dy ddiet. Mae brasterau annirlawn, fel y rheiny mewn pysgod olewog fel eog, yn hanfodol mewn diet iach, cytbwys. Argymhellir na ddylai pobl ifanc fwyta mwy na thri dogn o fwydydd brasterog neu siwgrog bob dydd. Mae’r bwydydd yn y grŵp yma’n cynnwys creision, siocled, teisennau a diodydd swigod
- Fitaminau a mwynau – Dim ond symiau bychain o’r bwydydd yn y grŵp yma sydd eu hangen, ond maen nhw’n hanfodol ar gyfer brwydro yn erbyn rhai afiechydon a sicrhau dannedd, esgyrn a chroen iach. Mae fitaminau i’w cael mewn amrywiaeth eang o fwydydd ond y farn erbyn hyn yw ei bod hi'n bwysig iawn bod pawb yn bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Mae hyn yn cynnwys sudd ffrwythau a dylai gynnwys llysiau deiliog gwyrdd hefyd. Mae cynhyrchion llaeth yn ffynhonnell dda ar gyfer y calsiwm sy’n angenrheidiol ar gyfer esgyrn iach ac mae cig coch a llysiau gwyrdd, yn ogystal â rhai grawnfwydydd, yn cynnwys yr haearn sy’n angenrheidiol i atal anemia
- Ffeibr – Mae’r grŵp bwydydd yma’n helpu i gadw’r system dreulio yn gweithio’n iawn. Mae ffeibr i’w gael mewn ffrwythau a llysiau, blawd, bara a phasta gwenith cyflawn
- Dŵr – Mae hwn yn hanfodol i gadw ein cyrff yn gweithio'n iawn. Yn hinsawdd y DU fe ddylen ni yfed 1.2 litr o hylif bob dydd. Mae hyn yn atal ein corff rhag sychu, ac mewn hinsoddau poethach mae angen inni yfed mwy. Bydd peth hylif yn dod o’r bwyd y byddwn ni’n ei fwyta
Bydd dewis bwydydd o bob un o’r grwpiau yma yn y meintiau cywir yn golygu y bydd gennyt ti ddiet iach, ac fe ddylai amddiffyn ti rhag afiechyd a salwch.