Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Clefyd y Gwair
Yn yr Adran Hon
- Maetheg
- Gordewdra
- Gweithgaredd Corfforol
- Llysieuwyr a Feganiaid
- Anemia
- Diabetes
- Asthma
- Alergeddau
- Clefyd y Gwair
- Ecsema
- Croen a Sbotiau
- Torheulo a Chael Lliw Haul
- Tatŵs a Chelf y Corff
- Atal Dweud
- Heintiau Wrin a Gwlychu
- Arogleuon y Corff
- Tarwden y Traed
- Cur Pen a'r Meigryn
- Cysgu
- Epilepsi
- M.S.
- M.E.
- M.D.
- Llid yr Ymennydd
- Canser
Clefyd y Gwair
Mae clefyd y gwair (hayfever) yn alergedd i baill (pollen), ac mae’n gyffredin iawn. Mae pobl yn cael eu geni gyda'r alergedd yma ond gallai fod yn anactif a dod i'r amlwg yn hwyrach.
Mae clefyd y gwair yn fwy cyffredin yn ystod yr arddegau ac rwyt ti'n fwy tebygol o ddioddef ohono os oes gen ti asthma neu os ydy dy rieni yn dioddef o glefyd y gwair.
Os wyt ti'n dioddef o glefyd y gwair, pan fyddi di’n mewnanadlu paill, fe fydd yn llidio (irritate) y pibellau anadlu ac yn achosi i’r trwyn redeg neu deimlo’n llawn, llygaid coch sy’n ysu ac yn rhedeg, tisian, ceg sy’n goglais neu’n ysu, peswch a phen sy’n teimlo llawn anwyd. Mae’r cyfrif paill yn uwch rhwng mis Ebrill a mis Awst, a gall hyn waethygu'r symptomau.
Er nad oes unrhyw beth i wella clefyd y gwair yn llwyr, mae posib cael triniaethau oddi wrth y meddyg neu fferyllydd. Ymhlith y triniaethau mae chwistrell i’r trwyn, diferion i’r llygaid a thabledi gwrth-histamin.
Gall rhai pobl sy’n dioddef o glefyd y gwair hefyd ddatblygu alergeddau trwy fwyta rhai ffrwythau, llysiau a chnau oherwydd eu cyfrif paill uchel yn ystod misoedd yr haf.