Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Mewn Argyfwng



Mewn Argyfwng

Os wyt ti'n wynebu argyfwng galwa 999 ar gyfer yr heddlu, tân neu ambiwlans.

Dylai'r gwasanaeth 24 awr yma gael ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd ble, er esiampl:

  • Mae rhywun mewn perygl rŵan hyn
  • Mae trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth
  • Mae trosedd difrifol yn digwydd neu'n debygol o ddigwydd
  • Mae un a ddrwgdybir o drosedd difrifol yn gyfagos
  • Mae yna ddamwain ffordd sydd ag anafiadau neu berygl
  • Mae yna berson bregus sydd angen sylw brys

Bydd arbenigwr ar ochr arall y ffôn yn trefnu bod yr adnodd mwyaf addas i'r argyfwng yn cael ei alw. Byddi di'n cael dy gysuro, yn dweud wrthyt ti beth i wneud, yn cael dy rybuddio am unrhyw beryglon ac yn cael gwybod ble i fynd i gael lloches. Os wyt ti wedi cael dy wahanu oddi wrth ffrindiau neu deulu bydd y person ar y ffôn yn gweithio gydag eraill i gael pawb yn ôl at ei gilydd.

Ceisia peidio cynhyrfu – mae'n bwysig iawn i roi'r wybodaeth gywir.

Noddir y dudalen hon gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys
www.dyfed-powys.pcc.police.uk
Twitter: @DPOPCC
Facebook: dyfedpowyspoliceandcrimecommissioner

Related Media

Useful Links

-->

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50